20/09/2016 - Cynnig â Dyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 13/09/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/09/2016

​Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 20 Medi 2016

Cynnig a gyflwynwyd ar 13 Medi 2016

 
NDM6090 Ken Skates (De Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Eiddo Diwylliannol (Gwrthdaro Arfog) sy'n ymwneud â gwarchod eiddo diwylliannol mewn achos o wrthdaro arfog, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Mehefin 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

Cultural Property (Armed Conflicts) Bill [HL] 2016-17 — UK Parliament