20/11/2013 - Cynigion a Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 20 Tachwedd 2013

Cynigion a gyflwynwyd ar 13 Tachwedd 2013

Dadl Fer

NDM5360 Keith Davies (Llanelli): Rheoleiddio gorfodol gan y wladwriaeth ar gyfer y diwydiant trin gwallt yng Nghymru: pryder iechyd cyhoeddus ehangach.

NDM5361 Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2014-15, fel y pennir yn Nhabl 1 “‘’Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2014-15”, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 13 Tachwedd 2013 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).

NDM5362 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn Nodi:

a) canfyddiadau adroddiad ar newid yn yr hinsawdd gan y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd ei bod 95% yn sicr mai dylanwad dynol ar yr hinsawdd a achosodd dros hanner o'r cynnydd a nodwyd mewn tymereddau arwyneb cyfartalog o 1951-2010;

b) dibyniaeth barhaus Cymru ar danwyddau ffosil ar gyfer ynni, sy'n darparu tua 80% o'r anghenion ynni;

c) mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y defnydd o  adnoddau nwy siâl Cymru, ynghyd â rheoli unrhyw fudd sy'n deillio ohono;

d) methiant Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei tharged o gynhyrchu 4TWh o drydan o ynni adnewyddadwy erbyn 2010;

e) er gwaethaf y ffaith bod Cymru yn allforiwr net trydan, mae biliau'n uwch yng Nghymru nag yn Lloegr neu'r Alban;

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) datblygu ‘Map Llwybr’ manwl a Chynllun Gweithredu a fydd yn arwain at dargedau ynni adnewyddadwy 2020, gan ddangos targedau ar gyfer pob math unigol o ynni a'r camau a gymerir i gyrraedd y targedau hynny;

b) rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU i ddatganoli yn llawn y portffolio ynni a rheoli adnoddau naturiol Cymru i'r Cynulliad Cenedlaethol;

c) cadarnhau gydag Ofgem a'r Grid Cenedlaethol a oes unrhyw ymchwil wedi'i gwneud i gost a hyfywedd cebl tanfor sy'n cysylltu'r Grid Cenedlaethol rhwng gogledd a de Cymru, ac os felly darparu copi o'r ymchwil honno;

d) ymchwilio i'r potensial i sefydlu cwmni ynni cyhoeddus, di-ddifidend i fuddsoddi mewn ynni er budd pobl Cymru.

NDM5363 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi polisi Ceidwadwyr Cymreig ‘Gweledigaeth ar gyfer Tai Cymru’;

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda’r farchnad gyfan i sicrhau y ceir ateb i'r argyfwng cyflenwad tai.

Mae 'Gweledigaeth ar gyfer Tai Cymru' ar gael yn:

http://www.ceidwadwyrcymreig.com/safle/www.ceidwadwyrcymreig.com/files/gweledigaeth_ar_gyfer_tai_cymru

Cynigion a gyflwynwyd ar 19 Tachwedd 2013

NDM5368
Christine Chapman (Cwm Cynon)
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Atodlen 1, paragraff 4, i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 a Rheol Sefydlog 10.5: Yn cytuno i enwebu'r Athro Sylvia Margaret Griffiths i'w Mawrhydi er mwyn ei phenodi yn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Dros Dro.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 14 Tachwedd 2013

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5363

1. Elin Jones (Ceredigion)

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi nad yw polisi’r Ceidwadwyr Cymreig ‘Gweledigaeth ar gyfer Tai Cymru’ yn cydnabod mai’r broblem tai mwyaf brys yw’r effaith enbyd y mae’r Dreth Ystafell Wely yn ei chael ar nifer o denantiaid tai cymdeithasol, gan effeithio ar allu landlordiaid cymdeithasol i gynyddu’r cyflenwad tai, ac felly’n annog Llywodraeth y DU i ddiddymu’r Dreth Ystafell Wely.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 15 Tachwedd 2013

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5362

1. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu is-bwynt 1c a rhoi yn ei le:

er mai Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am y drefn drwyddedu ar gyfer chwilota am nwy anghonfensiynol a’i echdynnu, mae angen mathau eraill o ganiatâd (megis caniatâd cynllunio lleol) cyn y caniateir i waith ddechrau gyda nwy anghonfensiynol.

2. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys is-bwynt 1d newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

bod Llywodraeth y DU wedi ymgynghori ar drefn ariannol ar gyfer echdynnu nwy siâl ac wedi addo darparu fframwaith cydlynol er mwyn galluogi cymunedau lleol i elwa’n uniongyrchol o unrhyw adnoddau a ddatblygir yn eu hardal.

3. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu is-bwynt 2b a rhoi yn ei le:

gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu cynnig cynhwysfawr i ddatganoli rhagor o bwerau i Gymru ar gyfer cydsyniadau ynni ac ymrwymo i ynni adnewyddadwy.

4. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys is-bwynt 2c newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

gweithio gyda Llywodraeth y DU i ystyried a yw’r drwydded bresennol ar gyfer Datblygu a Chwilota am Betrolewm yn y DU yn drefn effeithiol i ddatblygu nwy anghonfensiynol yn y dyfodol.

5. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys is-bwynt 2c newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

datblygu canllawiau cynllunio technegol ar chwilota am nwy anghonfensiynol er mwyn helpu awdurdodau cynllunio lleol i gyflawni eu swyddogaethau yn briodol.

6. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

cadarnhau a yw’n cefnogi Prosiect Cysylltu Canolbarth Cymru, a fyddai’n arwain at lawer iawn o dyrbinau gwynt ar y tir ledled Canolbarth Cymru.

7. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

cyflwyno’r gwerthusiad gwerth am arian o brosiect Ynni’r Fro, a oedd i fod yn barod erbyn diwedd mis Medi 2013.

8. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

cyflwyno datganiad manwl yn amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cymaint o gyfleoedd ag y bo modd i Gymru drwy’r Banc Buddsoddi Gwyrdd.

9. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1:

bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Banc Buddsoddi Gwyrdd gwerth £3 biliwn, y cyntaf o’i fath yn y byd, a fydd yn sianelu £15 biliwn o fuddsoddiad y sector preifat i brosiectau gwyrdd.

10. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Dileu is-bwynt 2b a rhoi yn ei le:

ailddatgan y gefnogaeth gan bob plaid i ddatganoli cydsyniadau ynni ar gyfer prosiectau ar y tir sy’n fwy na 50MW ac i weithio gyda Llywodraeth y DU i gysoni pwerau cydsynio ar y môr yn nyfroedd Cymru.

11. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1:

pwysigrwydd cynlluniau ynni cymunedol i gynaliadwyedd ardaloedd lleol, gan feithrin ysbryd cymunedol a chodi ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud ag ynni a newid yn yr hinsawdd.

12. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1:

bod prosiectau seilwaith cenedlaethol eu harwyddocâd (NSIP) ar ynni, gan gynnwys ynni niwclear, yn cael effaith y tu hwnt i ffin Cymru/Lloegr.

NDM5363

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu bod oddeutu 21,551 o gartrefi gwag hirdymor yng Nghymru a bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chreu strategaeth cartrefi gwag ar gyfer Cymru gyfan.

2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod pryder adeiladwyr tai bod biwrocratiaeth yn y system gynllunio yn un o’r prif rwystrau i ddatblygu cartrefi newydd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio’r Bil Diwygio Cynllunio arfaethedig i gael gwared ar y prif rwystrau rhag darparu trefn gynllunio effeithiol.

3. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn croesawu’r camau a gymerir gan Lywodraeth y DU i ysgogi’r gwaith o adeiladu tai newydd drwy fenthyciadau ecwiti a chynllun gwarant morgais, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i bennu dyddiad ar gyfer cyflwyno’r cynllun hirddisgwyliedig Cymorth i Brynu Cymru.

4. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi mai dim ond un ar ddeg o gynghorau lleol yng Nghymru sy’n dal i fod â stoc tai cyngor yn eu meddiant ac mae hynny’n llesteirio gweledigaeth Ceidwadwyr Cymreig i adfer cynllun ‘Hawl i Brynu’ yng Nghymru, a bod y pwer i atal yr Hawl i Brynu tai cyngor mewn ardaloedd lle mae llawer o alw yn arf pwysig i helpu i leihau lefelau digartrefedd a phrinder tai cymdeithasol.

5. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu wrth y degawdau o fethiannau gan lywodraethau Llafur a Cheidwadol sydd wedi arwain at ein hargyfwng tai ac mae hynny wedi gwthio rhenti yn uwch ac yn uwch, wedi gadael miloedd o bobl heb obaith o gael eu troed ar yr ysgol eiddo, ac wedi golygu bod 1.5 miliwn yn llai o gartrefi cymdeithasol ar gael i’w rhentu.