21/01/2015 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 14/01/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/01/2015

Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 21 Ionawr 2015

Cynigion a gyflwynwyd ar 20 Tachwedd 2014

NNDM5639 Mark Isherwood (Gogledd Cymru):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu cyflawni cynllun gweithredu strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer anhwylder yn y sbectrwm awtistig.

2. Yn nodi bod angen gwneud mwy i ddiwallu anghenion plant ac oedolion sydd ag awtistiaeth yng Nghymru.

3. Yn credu y byddai gosod dyletswyddau penodol ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn arwain at fwy o eglurder ynghylch y gofal a'r cymorth y gall pobl ag awtistiaeth ei ddisgwyl.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Awtistiaeth ar gyfer Cymru.

Mae cynllun gweithredu strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer anhwylderau'r sbectrwm awtistig ar gael yn: http://wales.gov.uk/topics/childrenyoungpeople/publications/autisticspectrumdisorderplan/?lang=cy

Cefnogwyd gan:

Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)

Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Peter Black (Gorllewin De Cymru)

William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynigion a gyflwynwyd ar 21 Ionawr 2015

Dadl Fer

NDM5669 Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Dangos y faner goch i Gylchfordd Cymru – amlinellu'r pryderon am brosiect Cylchffordd Cymru.

NDM5670 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar ei Ymchwiliad i Dwristiaeth, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Tachwedd 2014.

Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 14 Ionawr 2015.

NDM5671 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1. Yn nodi:

a) pwysigrwydd y diwydiant amaeth i economi, amgylchedd a chymunedau Cymru;
b) yr argyfwng yn y sector laeth sy'n deillio o ostyngiad yn y prisiau llaeth a delir i ffermwyr ac ansefydlogrwydd y gadwyn laeth;
c) yr ansicrwydd o ran y taliad sylfaenol sy'n deillio o ddiddymu Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Dros Dro) (Cymru) 2014 yn dilyn her barnwrol;
d) y bleidlais yn Senedd Ewrop i roi'r pŵer i aelod-wladwriaethau i awdurdodi cnydau GM i aelod-wladwriaethau, a'r ffaith mai Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol am wneud y penderfyniad yng Nghymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithio gyda'r gadwyn laeth a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredu'n benodol i sicrhau cynaliadwyedd hyfyw y cynhyrchwyr llaeth; 
b) sicrhau adnoddau digonol ac amserlen gyraeddadwy i ddiogelu talu'r taliad sylfaenol ar 1 Rhagfyr 2015; ac
c) ail-ddatgan ei bwriad i gadw Cymru yn ddi-GM.

 

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 16 Ionawr 2015

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5671

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1:

y rôl ganolog y mae cynhyrchu bwyd yn ei chwarae yn y byd ffermio yng Nghymru o ystyried yr angen brys i ddiogelu'r cyflenwad bwyd.

2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

gweithredu mesurau rhagweithiol i hwyluso'r gwaith o gynllunio ar gyfer olyniaeth yn y sector ffermio, o ystyried proffil oedran ffermwyr yng Nghymru a'r angen i ddarparu mynediad i'r tir.

3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 2:

ymgysylltu ac ymgynghori'n ddigonol â rhanddeiliaid ynghylch y system dalu newydd yn dilyn diddymu Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Dros Dro) (Cymru) 2014; a

ymgysylltu â rhanddeiliaid a gweithio gyda hwy i sicrhau hyfywedd tymor hir y gwaith o gynhyrchu bwyd a chynhyrchwyr bwyd yng Nghymru.