Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 21 Mawrth 2017
Cynigion a gyflwynwyd ar 14 Mawrth 2017
NDM6262 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru).
Gosodwyd y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 28 Tachwedd 2016.
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 10 Mawrth 2017.
NDM6263 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69 sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.
NDM6264 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu'r adrannau a'r atodlenni i'r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:
a) Adrannau 2-13;
b) Atodlen 2;
c) Adrannau 14-17;
d) Atodlen 3;
e) Adran 18;
f) Atodlen 4;
g) Adrannau 19-24;
h) Atodlen 5;
i) Adrannau 25-30,
j) Atodlenni 9-22;
k) Adrannau 31-32;
l) Atodlen 6;
m) Adrannau 33-41;
n) Atodlen 7;
o) Adran 42;
p) Atodlen 8;
q) Adrannau 43-76;
r) Atodlen 23;
s) Adrannau 77-81;
t) Adran 1;
u) Atodlen 1;
v) Teitl Hir
NDM6265 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Maint a Chyfansoddiad Pwyllgorau Awdurdodau Cynllunio Lleol (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Chwefror 2017.