Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 21 Mai 2014
Cynigion a gyflwynwyd ar 14 Mai 2014
Dadl Fer
NDM5513 Aled Roberts (Gogledd Cymru): Sgrinio ar gyfer Dyslecsia yng Nghymru
Pwysigrwydd sgrinio amserol a digonol ar gyfer dyslecsia yng Nghymru, yn enwedig o ran technegau a ddatblygwyd yn ddiweddar ar gyfer sgrinio plant ysgol gynradd sy'n cael eu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
NDM5509 Christine Chapman (Cwm Cynon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Lefelau Cyfranogiad Mewn Chwaraeon, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mawrth 2014.
Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 14 Mai 2014.
NDM5512 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi methiannau polisi Llafur Cymru yn ystod 15 mlynedd mewn llywodraeth yng Nghymru;
2. Yn gresynu at y diffyg perfformiad yn:
a) Yr economi, gyda gwerth ychwanegol crynswth (GYC) bellach ar 72.3% o gyfartaledd y DU;
b) Addysg, lle mae safle Cymru yn safleoedd PISA wedi dirywio ym mhob cyfnod asesu;
c) Y GIG, gydag un o bob saith yng Nghymru ar restr aros.
NDM5511 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu bod rhannau o Gymoedd De Cymru yn parhau i wynebu lefelau uchel o amddifadedd.
2. Yn cydnabod bod trechu tlodi yn y Cymoedd yn ei gwneud yn ofynnol cael buddsoddiad parhaus ac ymyriad Llywodraeth Cymru.
3. Yn nodi'r potensial sylweddol i Gymoedd De Cymru hyrwyddo eu treftadaeth gymdeithasol a diwylliannol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cynorthwyo'n uniongyrchol fentrau ar lawr gwlad i drechu tlodi a gwella adfywiad ardaloedd ag amddifadedd yn y Cymoedd;
b) sicrhau bod digon o ofal plant fforddiadwy i ddiwallu anghenion rhieni;
c) sicrhau bod gan bob unigolyn sydd allan o waith yn y Cymoedd fynediad i hyfforddiant prentisiaeth neu sgiliau;
d) datblygu, drwy ymgynghori â'r cyhoedd, strategaeth gynhwysfawr i fynd i'r afael â'r problemau a meithrin cymunedau cynaliadwy yn y Cymoedd.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 15 Mai 2014
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5512
1. Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddysgu o lwyddiant Llywodraeth yr Alban o ran gwella twf economaidd a darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus mewn cyd-destun datganoledig.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 16 Mai 2014
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5511
1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ym mhwynt 3 ar ôl ‘gymdeithasol a diwylliannol’, rhoi:
‘ac yn condemnio’r camreolaeth sydd wedi arwain at gau rhai o ganolfannau pwysig o werth cymdeithasol a diwylliannol sylweddol yn yr ardaloedd hynny’.
2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys is-bwynt 4d) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
‘annog awdurdodau lleol yn y Cymoedd i ddefnyddio pwerau o dan Ddeddf Lleoliaeth 2011 i ddynodi Asedau o Werth Cymunedol a gwarchod adeiladau pwysig rhag y perygl o orfod cau.’
3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys pwynt 1 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
1. Yn cydnabod yr effaith y mae polisi economaidd Llywodraeth y DU wedi’i chael ar gymoedd de Cymru o ran:
a) sefydlogi’r economi a hybu twf economaidd;
b) rhoi hyder i gyflogwyr gynyddu cyfleoedd cyflogaeth;
c) cefnogi creu cyfoeth a fydd yn cyllido ac yn cynnal darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus.
4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys is-bwynt 4a) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
cydlynu’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r gymdeithas sifil yng Nghymoedd De Cymru i sicrhau bod yr ardaloedd hynny yn manteisio i’r eithaf ar botensial twf economaidd Cymru.
5. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn gresynu bod Gorllewin Cymru a’r Cymoedd wedi bod yn gymwys ar gyfer tri chylch o gyllid strwythurol yr UE gan eu bod yn is na 75% o CMC yr UE.