21/09/2009 - Cynigion heb Dyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod yn y Dyfodol

Cynnig heb Ddyddiad Trafod a gyflwynwyd ar 21 Medi 2009

NNDM4278 - TYNNWYD YN ÔL

Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)

Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Jenny Randerson (Canol Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi penderfyniad Comisiwn y Cynulliad ddydd Llun 21 Medi i gynnal adolygiad o ddarpariaeth iaith yn y Cynulliad ac i gynhyrchu cofnod dwyieithog ffurfiol mewn 3-10 diwrnod yn hytrach na 24 awr fel sy’n digwydd ar hyn o bryd;

2. Yn mynegi ei siom â’r penderfyniad hwn a’r ffordd mae’r mater wedi cael ei drin gan y Comisiwn; ac

3. Yn unol ag Adran 27(6) Deddf Llywodraeth Cymru 2006, yn cyfarwyddo Comisiwn y Cynulliad i barhau i gyhoeddi cofnod dwyieithog o gyfarfodydd y Cyfarfod Llawn cyn pen 24 awr tra bo unrhyw adolygiad yn mynd yn ei flaen, a bod yr adolygiad yn cael ei gynnal yn agored ac yn dryloyw gydag ACau ac eraill yn cael y cyfle i roi sylwadau a chymryd rhan.