Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 21 Medi 2010
Cynigion a gyflwynwyd ar 14 Medi 2010
NDM4532 Alun Ffred Jones (Arfon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 23.24:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Y Mesur Arfaethedig y Gymraeg (Cymru)
Gosodwyd Y Mesur Arfaethedig y Gymraeg (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 4 Mawrth 2010;
Gosodwyd adroddiad Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2 ar y Mesur Arfaethedig y Gymraeg (Cymru)
gerbron y Cynulliad ar 22 Gorffennaf 2010.
NDM4533 Alun Ffred Jones (Arfon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Mesur Arfaethedig y Gymraeg (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 23.80(ii)(a) a (b), sy’n codi o ganlyniad I’r Mesur.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 16 Medi 2010
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4532
Nick Ramsay (Mynwy)
Yn gresynu nad yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn dal wedi mabwysiadu datganiad clir eto mai Cymraeg a Saesneg yw ieithoedd swyddogol Cymru a bod dilysrwydd a statws cyfartal i'r ddwy.