22/01/2014 - Cynigion a Dyddiad Trafod A Gwelliannau

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 22 Ionawr 2014

Cynigion a gyflwynwyd ar 15 Ionawr 2014

Dadl Fer

NDM5406 Leanne Wood (Canol De Cymru):

Y dechrau gorau mewn bywyd: Dyhead gwirioneddol i bawb?

Yr angen i sicrhau cyfle cyfartal i deuluoedd difreintiedig fanteisio ar ddarpariaeth gofal plant Dechrau'n Deg cyfrwng Cymraeg.

NDM5403 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, yn cytuno i:

1. newid cylch gwaith y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i gynnwys Addysg Uwch;

2. newid teitl y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg;

3. trosglwyddo twristiaeth o gylch gwaith y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i gylch gwaith y Pwyllgor Menter a Busnes.

Mae cynigion y Pwyllgor Busnes i’w gweld yn yr adroddiad ‘Portffolios a Chyfrifoldebau'r Pwyllgorau yn y Pedwerydd Cynulliad’ a osodwyd ar 15 Ionawr 2014.

NDM5404 Nick Ramsay (Mynwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar yr Ymchwiliad i Entrepreneuriaeth ymysg Pobl Ifanc, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Tachwedd 2013.

Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 15 Ionawr 2014.

NDM5405 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod dros flwyddyn wedi mynd heibio ers cyhoeddi ffigurau cyfrifiad 2011 sy’n dangos bod gostyngiad o 2 y cant yn y nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu er mwyn galluogi’r Gymraeg i ffynnu drwy, ymysg pethau eraill:

a) sicrhau bod gan bawb yng Nghymru’r cyfle i ddysgu Cymraeg;

b) buddsoddi mewn gofal plant trwy gyfrwng y Gymraeg;

c) cynyddu nifer y disgyblion sy’n derbyn y Cyfnod Sylfaen drwy gyfrwng y Gymraeg;

d) defnyddio’r potensial o dan Fesur y Gymraeg 2011 i osod safonau ar gyfer y Gymraeg sy’n rhoi hawliau cryfach i siaradwyr Cymraeg na chynlluniau iaith o dan Ddeddf Iaith 1993;

e) annog cyrff cyhoeddus i ddefnyddio’r Gymraeg fel iaith weinyddol yn fewnol;

f) creu cyfleoedd economaidd a swyddi yng nghadarnleoedd y Gymraeg drwy hybu datblygiad Bangor a Menai, Aberystwyth a Chaerfyrddin fel dinas-ranbarthau;

g) sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chymryd o ddifrif yn y system gynllunio.

NDM5407 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi llifogydd a difrod mis Rhagfyr 2013 a mis Ionawr 2014 sydd wedi effeithio ar bobl a chymunedau ledled Cymru.

2. Yn cydnabod gwaith rhagorol y gwasanaethau a’r sefydliadau brys o ran darparu cefnogaeth a chymorth i'r cymunedau hynny.

3. Yn credu y dylai'r defnydd deuol posibl o brosiectau ynni adnewyddadwy lleol gael ei ystyried o ran darparu amddiffynfeydd môr pellach.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) mynd ati ar unwaith i adolygu Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygu a Pherygl o Lifogydd;

b) datblygu ac ail-lansio'r cynllun grant a dreialwyd yn 2010/11 i ddarparu cyllid i'r rhai sy'n wynebu'r perygl mwyaf o lifogydd i wneud eu cartrefi'n fwy diogel rhag llifogydd;

c) cyhoeddi adroddiadau ymchwiliad Cyfoeth Naturiol Cymru i’r llifogydd diweddar, ar ôl eu cwblhau.

Mae Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygu a Pherygl o Lifogydd ar gael yn: http://cymru.gov.uk/docs/desh/publications/040701tan15cy.pdf

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 16 Ionawr 2014

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5407

1. Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:

‘sefydlu Fforwm Llifogydd Cenedlaethol i Gymru’.

2. Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:

‘cyfrifo'r gost ychwanegol i lywodraeth leol a sefydliadau cyhoeddus eraill yn sgîl y stormydd diweddar, ac ystyried ar unwaith yr angen i wneud cais am gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU neu'r Undeb Ewropeaidd i helpu i ysgwyddo'r baich ariannol’.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 17 Ionawr 2014

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5405

1. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys ‘yn effeithiol’ ar ddiwedd is-bwynt 2a.

2. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

manteisio ar y cyllid ychwanegol ar gyfer Dechrau'n Deg i wella’r broses o hyrwyddo'r Gymraeg ymysg plant ifanc a'u teuluoedd.

3. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

gweithio gydag oedolion sy’n dysgu Cymraeg er mwyn creu cyfleoedd i siarad Cymraeg yn eu cymunedau.

4. Lesley Griffiths (Wrecsam)

Yn is-bwynt 2f, dileu popeth ar ôl ‘Gymraeg’.

5. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi methiannau Llywodraeth Cymru o ran bodloni’r safonau yn llawn wrth hybu’r defnydd o ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol mewn bywyd cyhoeddus, fel y nodir yn Siarter Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol Ewrop.

Mae ‘European Charter for Regional or Minority Languages – Fourth report of the Committee of Experts in respect of the United Kingdom’ ar gael yn:

https://wcd.coe.int/ViewDoc.jsp?Ref=CM(2013)150&Language=lanEnglish&Site=CM&BackColorInternet=C3C3C3&BackColorIntranet=EDB021&BackColorLogged=F5D383

6. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Dileu pwynt 2f a rhoi yn ei le:

cefnogi cadarnleoedd y Gymraeg yng ngorllewin Cymru drwy ddatblygu strategaeth economaidd ar gyfer yr ardaloedd hyn, sy’n adlewyrchu eu cymeriad ac sydd wedi’u teilwra’n unol â'u hanghenion

7. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

rhoi sylw i’r anawsterau a wynebwyd yn lleol o ran derbyn darllediadau yn y Gymraeg ers newid i’r digidol ar gyfer teledu yn 2010.

8. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

rhoi sylw i’r gwendidau yn narpariaeth Cymraeg fel ail iaith mewn ysgolion.

9. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

sicrhau y caiff Comisiynydd y Gymraeg ei benodi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

10. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

sicrhau bod Cynlluniau Strategol Addysg Gymraeg yn gadarn ac yn cynnwys mesurau y mae modd eu cyflawni i gwrdd â’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg ac i sicrhau dilyniant rhwng yr addysg gynradd ac uwchradd a gynigir.

11. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

sicrhau bod unrhyw werthusiad o’r rhaglen Dechrau’n Deg yn rhoi sylw i’r ddarpariaeth Gymraeg.

NDM5407

1. Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu is-bwyntiau 4a a 4b a rhoi yn eu lle:

parhau â’i dull a ddisgrifir yn y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru a’r buddsoddiad o £240 miliwn i ddelio â llifogydd yn ystod tymor y Llywodraeth hon.

Gellir gweld y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru drwy ddilyn y ddolen ganlynol:

http://wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/epq/flooding/nationalstrategy/strategy/?skip=1&lang=cy

2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn canmol gwirfoddolwyr lleol ar hyd a lled Cymru am eu hymroddiad yn ystod y broses lanhau ac adfer.

3. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys is-bwynt 4a newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch y camau y mae wedi'u cymryd i ymchwilio i'r posibilrwydd o ddefnyddio cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd i gynorthwyo gyda’r costau yn sgîl gwaith atgyweirio.

4. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys is-bwynt 4a newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

ymgysylltu’n gadarnhaol â phartneriaid perthnasol i sicrhau agwedd bragmatig tuag at geisiadau gan fusnesau a thai i ôl-ffitio eiddo at ddibenion gwella mesurau atal llifogydd.

5. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys is-bwynt 4a newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

amlinellu’r camau sy’n cael eu cymryd i ddefnyddio gwybodaeth leol a thechnegau rheoli tir arloesol i wneud mwy o ddefnydd o adnoddau naturiol i leihau effaith llifogydd, a chymryd camau i sicrhau bod cynrychiolwyr yn gwella eu sgiliau’n briodol er mwyn gwella’r gallu i wrthsefyll llifogydd.

6. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys is-bwynt 4a newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

annog adolygiad o’r polisi clirio afonydd yng Nghymru cyn gynted â phosibl, er mwyn lleihau’r perygl o lifogydd.