22/01/2016 - Cynnig heb Ddyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 22/01/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/01/2016

Cynigion a gwelliannau i'w trafod yn y dyfodol

Cynigion a gyflwynwyd ar 22 Ionawr 2016

NNDM5940 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i'r cynnig o dan eitem 4 gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mercher, 27 Ionawr 2016.