Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 24 Ionawr 2017
Cynigion a gyflwynwyd ar 17 Ionawr 2017
NDM6211 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod effaith gyfunol materion sy'n gysylltiedig ag ansawdd yr amgylchedd lleol ar lesiant cymunedau.
2. Yn cefnogi:
a) pwyslais cynyddol ar weithgareddau atal gyda rhagor o gydweithio ar draws sectorau; a
b) cynnwys dinasyddion yn y gwaith o ganfod a chyflawni atebion ar gyfer gwella'r mannau lle y maent yn byw.
NDM6212 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y cynnydd sydd wedi'i wneud mewn partneriaeth â chyrff cyhoeddus eraill a'r trydydd sector i hybu mwy o gydraddoldeb yng Nghymru, fel y dangosir yn yr Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2015-2016 ac Adroddiad Interim Gweinidogion Cymru ar Gydraddoldeb 2016.
2. Yn ailddatgan ymrwymiad y Cynulliad i wneud Cymru'n wlad decach a mwy cyfartal.
TYNNWYD YN ÔL
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 18 Ionawr 2017
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:
NDM6211
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi â phryder mai ychydig iawn o Ardaloedd Rheoli Ansawdd yr Aer sydd wedi cael eu dirymu.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 19 Ionawr 2017
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:
NDM6212
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Cod Ymarfer Rhan 2, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol weithio mewn partneriaeth â phobl i gydgynhyrchu atebion i fodloni eu canlyniadau llesiant personol.
'Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014,Cod Ymarfer Rhan 2'
2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cynlluniau gweithredu effeithiol ar waith yn ymwneud â'r cynnydd o ran cydraddoldeb yng Nghymru, gydag amcanion a chanlyniadau mesuradwy wedi'u creu ar gyfer pob adroddiad yn y dyfodol.