24/02/2015 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 17/02/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/02/2015

Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 24 Chwefror 2015

Cynigion a gyflwynwyd ar 17 Chwefror 2015

NDM5697 Leighton Andrews (Rhondda)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu'r adrannau a'r atodlenni i'r Bil Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn canlynol:

a) adrannau 2 - 25

b) adran 1

c) Teitl Hir

NDM5698 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2013-14.

Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Chwefror 2015.

NDM5699 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2015-2016 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu).

Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Chwefror 2015. 

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 19 Chwefror 2015

 

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5698

1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cymeradwyo agweddau cryfach ar addysg yng Nghymru, ond yn gresynu at y ffaith bod safonau cyffredinol yn dal i fod yn wan ac:

a) bod angen i ysgolion sydd ag arweinyddiaeth gref i rannu arferion gorau gydag ysgolion gwannach i roi hwb i safonau; a

b) bod angen i Lywodraeth Cymru wella mynediad at ddatblygiad proffesiynol parhaus a'r ddarpariaeth ohono ar gyfer athrawon newydd a phrofiadol.

2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at gyflwr unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru y mae angen gwella pob un ond dau ohonynt.

3. Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at ganfyddiad Estyn bod safonau mewn ysgolion cynradd wedi gostwng eleni, gyda chyfran yr ysgolion cynradd sydd â safonau da neu ragorol yn disgyn o saith ym mhob 10 i ychydig dros chwech ym mhob 10.

4. Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at ganfyddiad Estyn bod disgyblion yn cael anhawster o ran defnyddio sgiliau rhifedd yn briodol ar draws y cwricwlwm mewn tua hanner ein hysgolion.

5. Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru feithrin gallu'r gweithlu addysg i roi polisïau allweddol ar waith mewn modd effeithiol, fel y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, y Cyfnod Sylfaen a'r Cwricwlwm Cenedlaethol newydd.

6. Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai athrawon ym mhob rhan o Gymru gael mynediad i arfer gorau.