24/06/2008 - Cynigion â dyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 24 Mehefyn 2008

Cynigion a gyflwynwyd ar 17 Mehefyn 2008

NDM3964

Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cefnogi datblygiad y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion.

2. Yn croesawu cychwyn y cynlluniau peilot mewn ysgolion ym mis Medi eleni.

Gellir gweld dogfen y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion ar y ddolen ganlynol:

h

ttp://www.eycymru.co.uk/downloads/Fframwaith-Cymraeg.pdf
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 19 Mehefin 2008

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM3964

1. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod darparu’r Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion yn cefnogi ac yn annog ysgolion i wella eu lefelau cyrhaeddiad.

2. Andrew RT Davies (Canol De Cymru)

Yn lle ‘cefnogi’ rhoi ‘nodi’.

3. Andrew RT Davies (Canol De Cymru)

Yn lle ‘croesawu’ rhoi ‘mynegi pryder ynghylch lefel y cyllid sydd ar gael ar gyfer’

4. Andrew RT Davies (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

‘Yn mynegi pryder ynghylch y cynnydd ym maich gwaith athrawon, sy’n deillio o’r cynigion hyn.’

5. Andrew RT Davies (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

‘Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i greu amgylchedd ysgol lle mae gan athrawon y rhyddid i ymarfer eu barn broffesiynol.’