Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod yn y dyfodol
Cynigion a gyflwynwyd ar 25 Ionawr 2016
NNDM6222 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil yn ymwneud â sgiliau achub bywyd.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) creu hawl statudol i bobl gael addysg a hyfforddiant sgiliau achub bywyd sy'n briodol i'w hoedran ar amrywiol adegau yn eu bywydau.
b) creu cyfrifoldebau statudol i sicrhau:
i) bod hyfforddiant sgiliau achub bywyd yn cael ei ddarparu;
ii) bod diffibrilwyr yn cael eu darparu mewn lleoliadau priodol;
iii) bod unigolion sydd wedi cael hyfforddiant achub bywyd ar gael mewn swyddi allweddol mewn gwasanaethau cyhoeddus (yn hytrach na pherson cymorth cyntaf penodedig); a
iv) bod deunyddiau cymorth cyntaf sylfaenol ar gael i'r cyhoedd mewn adeiladau cyhoeddus, ac nid ar gyfer y staff yn unig.
c) creu ffyrdd o wella a gorfodi o ran yr uchod.
Cefnogir gan:
David Rees (Aberafan)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
David Rowlands (Dwyrain De Cymru)