25/02/2009 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w trafod ar 25 Chwefror 2009

Cynigion a gyflwynwyd ar 18 Chwefror 2009

Dadl Fer

NDM4152 Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Dyfodol Gwasanaethau Epilepsi yng Nghymru:

NDM4148 Jeff Cuthbert (Caerffili)

Mae’r Cynulliad yn penderfynu o dan Reol Sefydlog 33.1 y bydd tymor swydd Richard Penn, Comisiynydd Safonau’r Cynulliad Cenedlaethol a benodwyd drwy benderfyniad gan y Cynulliad ar 15 Mawrth 2005 am dymor o bedair blynedd, yn cael ei ymestyn er mwyn dod i ben naill ai:

a) ar 31 Mawrth 2011; neu

b) os penodir Comisiynydd statudol drwy Fesur Cynulliad cyn y dyddiad hwnnw i gyflawni’r un swyddogaethau neu swyddogaethau tebyg, ar y diwrnod cyn y diwrnod pan wneir y penodiad hwnnw.”

NDM4149 Gareth Jones (Aberconwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu ar ei ystyriaeth o'r ddeiseb tanwydd a chludo nwyddau ar ffyrdd, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Tachwedd 2008

Noder: Ymateb y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Chwefror 2009

NDM4150 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Mae’r Cynulliad hwn yn nodi â phryder bod un pensiynwr o bob pump yng Nghymru yn byw mewn tlodi ac yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru, gan weithio gyda Llywodraeth y DU ac asiantaethau eraill, i weithredu ar fyrder i gywiro’r sefyllfa hon.

NDM4151 Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu wrth bleidlais Senedd Ewrop i ddileu eithriad Prydain o’r gyfarwyddeb oriau gwaith;

2. Yn nodi â phryder effaith dileu’r eithriad ar ddiffoddwyr tân wrth gefn ledled Cymru a chanlyniadau posibl hynny i iechyd a diogelwch y cyhoedd;

3. Yn nodi mai wrth gefn mae cyfran sylweddol o ddiffoddwyr tân a’r gwasanaeth gwerthfawr a ddarperir gan ddiffoddwyr tân gwirfoddol;

4. Yn nodi bod Undeb y Diffoddwyr Tân Wrth Gefn yn gwrthwynebu dileu’r eithriad ac os caiff yr eithriad ei ddileu ac na fydd gorsafoedd tân System Dyletswydd Wrth Gefn yn ddichonadwy dan y gyfarwyddeb, bydd 91% o’r DU yn colli darpariaeth werthfawr os cyfyd argyfwng tân; a

5. Yn nodi’r canlyniadau angheuol posibl i gymunedau Cymru.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 20 Chwefror 2009

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM4150

1. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Dileu “weithredu ar fyrder” a rhoi yn ei le “barhau â’r cynnydd sydd wedi’i wneud”.

2. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylid disodli’r dreth gyngor gan system decach yn seiliedig ar allu pobl i dalu er mwyn lleihau’r posibilrwydd y bydd pensiynwyr yn wynebu tlodi.

3. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi â phryder y nifer fawr o bensiynwyr sy’n byw mewn tlodi tanwydd, ac yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i:

a) Newid ffocws y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref fel ei fod yn helpu’r rheini mewn tlodi tanwydd;

b) Cyflwyno sylwadau i gwmnïau ynni i wella eu tariffau cymdeithasol ac i wella’r cyfraddau ar fesuryddion talu-ymlaen-llaw.

NDM4151

1. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi â phryder y byddai dileu’r eithriad yn cynyddu costau i orsafoedd tân sydd â diffoddwyr tân yn gweithio ar y System Dyletswydd Wrth Gefn.