Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 25 Mehefin 2013
Cynigion a gyflwynwyd ar 18 Mehefin 2013
NDM5271 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod yr heriau sylweddol sy’n wynebu Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill ar hyn o bryd i helpu pobl i fyw mewn tai gweddus a fforddiadwy;
2. Yn nodi’r cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn gyntaf o weithredu’r camau a amlinellir yn y Papur Gwyn ynghylch Tai a’r ffaith bod Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn i fodloni ei thargedau o ran y cyflenwad tai a sicrhau bod tai fforddiadw gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto;
3. Yn cydnabod rhaglen Llywodraeth Cymru i gyflenwi mwy o dai a chymryd camau eraill a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.
Gellir gweld y Papur Gwyn ynghylch Tai "Cartrefi i Gymru: Papur Gwyn ar gyfer Bywyd Gwell a Chymunedau Gwell" drwy ddilyn y linc ganlynol: http://cymru.gov.uk/docs/desh/consultation/120521whitepapercy.pdf
NDM5272 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod rôl hanfodol gofal sylfaenol o ran llunio a chyflenwi gwasanaethau iechyd yng Nghymru ac o ran mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 20 Mehefin 2013
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5271
1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn mynegi pryder am fethiant Llywodraeth Cymru i gyflwyno’r cynllun NewBuy Cymru, sy'n cosbi’r rheini sy’n prynu ty am y tro cyntaf yng Nghymru ac yn rhoi pobl sy’n prynu tai ac yn adeiladu tai o dan anfantais yng Nghymru o’i gymharu â Lloegr.
2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i sefydlu cynllun integredig i fynd i’r afael â mater cartrefi gwag yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu Strategaeth Cartrefi Gwag genedlaethol ar gyfer Cymru.
3. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn croesawu’r cynnydd sydd wedi’i wneud drwy’r cynllun achredu cenedlaethol ‘Cynllun Achredu Landlordiaid Cymru’ i gydnabod landlordiaid da a gwella’r cyflenwad o lety o ansawdd da ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu’r gwaith o drwyddedu asiantaethau gosod tai yng ngoleuni’r cynnydd o 9% mewn cwynion am asiantaethau gosod tai oddi wrth landlordiaid a thenantiaid yn 2012.
4. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Arolwg Tai Cymru i gasglu gwybodaeth a thystiolaeth am broffil cartrefi a'r stoc tai yng Nghymru, i helpu i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a monitro polisïau tai Llywodraeth Cymru.
5. Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi’r amcangyfrif gan Brif Weinidog Cymru bod angen 20,000 i 25,000 yn ychwanegol o gartrefi un a dwy ystafell wely i liniaru ar effeithiau’r newidiadau i’r budd-dal tai.
6. Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod prynwyr tro cyntaf yn gallu manteisio ar gynlluniau priodol sydd wedi’u sefydlu i’w helpu i allu fforddio cartrefi.
7. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 1 dileu popeth ar ôl ‘sylweddol' a rhoi yn ei le ‘sy’n wynebu cyflenwyr tai a sefydliadau eraill yng Nghymru ers datganoli i helpu pobl i fyw mewn tai gweddus a fforddiadwy;’
8. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu wrth y diffyg cynnydd gydag agweddau anneddfwriaethol y Papur Gwyn ynghylch Tai a’r nifer bychan o dai newydd sydd wedi cael eu hadeiladu yng Nghymru;
9. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 3, dileu popeth ar ôl ‘cydnabod’ a rhoi yn ei le 'angen Llywodraeth Cymru i gyflwyno Rhaglen Marchnad Gyfan i gyflenwi mwy o gartrefi a chymryd camau eraill a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.’
NDM5272
1. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth gyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru ar gyflwyno moratorium ar ddatblygu cynlluniau gofal sylfaenol newydd.
2. Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi’r cynnig gan Goleg Brenhinol y Meddygon Teulu am dimau o weithwyr meddygol proffesiynol o dan arweiniad meddygon teulu i ddarparu gofal drwy'r dydd a'r nos i rai cleifion sydd â chyflyrau cronig difrifol.
3. Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod gwasanaeth gofal cymdeithasol effeithiol yn gwneud cyfraniad pwysig at sicrhau bod pobl yn gallu rheoli cyflyrau cronig yn y gymuned ac yn gresynu wrth y rhwystrau artiffisial sy’n parhau rhwng Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
4. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod pwysigrwydd recriwtio a chadw meddygon ar gyfer darparu gofal sylfaenol mewn ardaloedd gwledig ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fonitro a chyhoeddi nifer y meddygon sy'n cael eu recriwtio drwy'r ymgyrch Gweithio dros Gymru.
5. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn mynegi pryder am brinder deintyddion y GIG yng Nghymru sy'n derbyn cleifion newydd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal asesiad o nifer y bobl nad ydynt yn gallu cael gafael ar ddeintydd y GIG yn eu hardal, i ganfod lle mae problemau lleol yn bodoli.