Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 28 Mawrth 2017
Cynigion a gyflwynwyd ar 21 Mawrth 2017
NDM6269 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno mai Senedd y DU ddylai ystyried y darpariaethau yn y Bil Pedolwyr (Cofrestru), i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Chwefror 2017 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(ii).
Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU:
NDM6270 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cytuno bod gan Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol swyddogaeth allweddol:
a.fel lleoedd gwerthfawr ar gyfer natur ac o safbwynt creu manteision cyhoeddus a phreifat drwy wahanol wasanaethau;
b. o safbwynt rheoli'n gynaliadwy adnoddau naturiol a chefnogi cymunedau gwledig llewyrchus.
2. Yn cytuno bod gwerth arbennig i bob tirwedd, yn unol ag ysbryd 'bro', sydd wrth wraidd hunaniaeth cymuned a'r ffordd y mae llawer o bobl yng Nghymru'n mynegi eu teimlad unigryw o berthyn i le penodol.
TYNNWYD YN ÔL
NDM6271 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) (Diwygio) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Chwefror 2017.
NDM6272 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau) (Cymru) (Diwygio) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Mawrth 2017.