28/03/2017 - Cynigion â Dyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 21/03/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/03/2017

​Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 28 Mawrth 2017

Cynigion a gyflwynwyd ar 21 Mawrth 2017

 
NDM6269 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno mai Senedd y DU ddylai ystyried y darpariaethau yn y Bil Pedolwyr (Cofrestru), i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Chwefror 2017 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(ii).

Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU:

Bil Pedolwyr (Cofrestru)

 
NDM6270 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
 
1. Yn cytuno bod gan Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol swyddogaeth allweddol:

a.fel lleoedd gwerthfawr ar gyfer natur ac o safbwynt creu manteision cyhoeddus a phreifat drwy wahanol wasanaethau;

b. o safbwynt rheoli'n gynaliadwy adnoddau naturiol a chefnogi cymunedau gwledig llewyrchus.

2. Yn cytuno bod gwerth arbennig i bob tirwedd, yn unol ag ysbryd 'bro', sydd wrth wraidd hunaniaeth cymuned a'r ffordd y mae llawer o bobl yng Nghymru'n mynegi eu teimlad unigryw o berthyn i le penodol.
TYNNWYD YN ÔL

NDM6271 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) (Diwygio) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar  8 Chwefror 2017.

 
NDM6272 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau) (Cymru) (Diwygio) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Mawrth 2017.