29/04/2014 - Cynigion a Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 29 Ebrill 2014

Cynigion a gyflwynwyd ar 22 Ebrill 2014

NDM5489 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 3(6) o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, yn cymeradwyo’r drafft o Gynllun Hawliau Plant 2014 a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 22 Ebrill 2014.

NDM5490 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi y bydd cynigion Llywodraeth Cymru yn Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 yn sbarduno ac yn cryfhau’r economi, yr amgylchedd a chydlyniant cymdeithasol yn y Gymru Wledig.

Mae cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 i’w gweld drwy’r ddolen a ganlyn:

http://wales.gov.uk/consultations/environmentandcountryside/wales-rdp-2014-2020-final-proposals/?lang=cy

NDM5491 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn croesawu cyhoeddi adroddiad diweddaraf Comisiwn Silk gan Lywodraeth y DU, y cytunwyd arno’n unfrydol, sef “Grymuso a Chyfrifoldeb: Pwerau Deddfwriaethol i Gryfhau Cymru”, ac yn ystyried yr adroddiad fel sail i’r angen mawr am ddiwygio’r setliad datganoli i Gymru.

Gallwch fynd at yr adroddiad “Grymuso a Chyfrifoldeb: Pwerau Deddfwriaethol i Gryfhau Cymru” drwy ddilyn y ddolen ganlynol:

http://commissionondevolutioninwales.independent.gov.uk/files/2014/03/Grymuso-a-Chyfrifoldeb-Pwerau-Deddfwriaethol-i-Gryfhau-Cymru.pdf

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 24 Ebrill 2014

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5489

1. Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi datganiad y Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn, sydd wedi’i gynnwys yn atodiad 3 i Gynllun Hawliau Plant 2014, bod y rhwymedigaeth i roi’r brif ystyriaeth i fuddiannau gorau’r plentyn yn ymestyn hefyd at gymeradwyo cyllidebau, gan fod gofyn mabwysiadu safbwynt sy’n canolbwyntio ar fuddiannau gorau’r plentyn wrth eu paratoi a’u datblygu er mwyn iddynt fod yn sensitif i hawliau plant.  

2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth y diffyg cyfeiriad at Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn mewn deddfwriaeth ddiweddar, fel Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i danlinellu ymrwymiad Cymru i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn drwy gynnwys cyfeiriad at “sylw dyledus” ar wyneb unrhyw ddeddfwriaeth yn y dyfodol a fyddai’n effeithio ar blant.

Mae Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar y Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) ar gael yn:

http://www.assemblywales.org/cy/bus-home/bus-business-fourth-assembly-laid-docs/cr-ld9064.pdf

3. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi Adroddiad Interim Corff Anllywodraethol Cymru 2013 ‘Hawliau Nawr, Hawliau Heddiw: A yw Hawliau Plant yn Realaeth yng Nghymru?’ ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod prosesau monitro effeithiol ar waith er mwyn sicrhau "gweithredu unedig i leihau'r bwlch o ran gweithredu rhwng rhethreg polisi cenedlaethol a chyflenwi lleol".

Mae Hawliau Nawr, Hawliau Heddiw: A yw Hawliau Plant yn Realaeth yng Nghymru? ar gael yn:

https://www.savethechildren.org.uk/sites/default/files/docs/Rights_Here_Right_Now_Welsh.pdf

NDM5490

1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Yn nodi cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.

2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth Cymru i ddewis trosglwyddo 15%, sef y lefel uchaf a ganiateir, i ffwrdd o daliadau uniongyrchol i ffermwyr yng Ngholofn 1 o’r Polisi Amaethyddol Cyffredin i’r Rhaglen Datblygu Gwledig, gan wneud busnesau ffermio Cymru yn llai cystadleuol.

3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn ceisio sicrwydd y bydd mesurau sy’n cael eu darparu drwy’r Rhaglen Datblygu Gwledig yn cael effaith ddi-oed, amlwg a mesuradwy ar incwm ffermydd.

4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) datblygu cynllun annibynnol ar gyfer Ardaloedd Llai Ffafriol i gefnogi’r rheini sy’n ffermio yn ardaloedd mwyaf heriol Cymru;

b) annog rhagor o ffermwyr i fanteisio ar gynllun Glastir drwy ei symleiddio ac ehangu’r mynediad iddo.

5. Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth Cymru i fodiwleiddio’r 15% llawn o Golofn 1 i Golofn 2.

6. Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn penderfynu y dylai Llywodraeth Cymru ddangos yn flynyddol effaith y Rhaglen Datblygu Gwledig ar incwm ffermydd.

7. Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar y Llywodraeth i flaenoriaethu cymorth i ffermwyr ifanc er mwyn ysgogi'r sector ffermio.

8. Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi cyfraniad sylweddol yr economi wledig at economi ehangach Cymru ac yn cydnabod y potensial ar gyfer datblygu economaidd drwy’r Rhaglen Datblygu Gwledig.

9. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cynllun Ardaloedd â Chyfyngiadau Naturiol penodedig ar gyfer ffermydd mynydd.

NDM5491

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi argymhellion Comisiwn Silk i gynnwys diwygiadau deddfwriaethol allweddol mewn maniffestos pleidiau, fel cyflwyno model cadw pwerau, trosglwyddo pwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol, a chryfhau capasiti’r Cynulliad Cenedlaethol i graffu ar ddeddfwriaeth, ac yn annog pleidiau gwleidyddol Cymru i ddilyn y cynnig hwn.