29/04/2015 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 22/04/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 29 Ebrill 2015

Cynigion a gyflwynwyd ar 22 Mawrth 2015

NDM5748 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i Arferion Gorau o ran y Gyllideb Rhan 2 - Cynllunio gweithdrefnau cyllidebol newydd a'u rhoi ar waith, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mawrth 2015.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Ebrill 2015.

 

NDM5747 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi pwysigrwydd cefn gwlad Cymru i economi Cymru;

2. Yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu'r sector amaethyddol yng Nghymru;

3. Yn galw am roi mesurau sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Lleoliaeth 2011 ar waith yn llawn yng Nghymru fel y gall cymunedau wneud cais am asedau lleol, fel swyddfeydd post a thafarndai, sy'n wynebu'r bygythiad o gael eu cau;

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu amserlen ar gyfer cyflwyno gweddill prosiect Cyflymu Cymru, sy'n  effeithio ar fusnesau a thrigolion mewn cymunedau gwledig; a

5. Yn gresynu at gau banciau'r stryd fawr yng nghefn gwlad Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i hwyluso trafodaethau ar fodel bancio cymunedol i sicrhau bod gwasanaethau dros y cownter yn parhau i fod yn hyfyw yng nghefn gwlad Cymru.

 

NDM5746 Aled Roberts (Gogledd Cymru):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod cynllun blaenllaw ac aneffeithiol Llywodraeth Cymru, Twf Swyddi Cymru, wedi'i gau yn sydyn, heb unrhyw beth i gymryd ei le. 

2. Yn nodi bod adroddiad gwerthuso interim 2014 ar Twf Swyddi Cymru wedi canfod:

a) y byddai 73 y cant o bobl ifanc wedi dod o hyd i gyflogaeth heb y cynllun;

b) bod methiannau sylweddol o ran targedu'r bobl ifanc hynny sydd angen help i ddod o hyd i waith fwyaf; ac

c) bod y rhai a oedd yn cymryd rhan yn y cynllun wedi'u cyfyngu i gyflogau isel, gan ennill dim ond 67 y cant o'r cyfartaledd ar gyfer eu grŵp oedran.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganolbwyntio cynlluniau cyflogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn y dyfodol ar wella lefelau sgiliau, cynyddu nifer y prentisiaethau a datblygu cyfleoedd hyfforddiant sy'n seiliedig ar waith, a fyddai'n cefnogi pobl ifanc sy'n fwyaf tebygol o wynebu diweithdra hirdymor a rhoi sgiliau a chyfleoedd iddynt a fydd yn helpu i adeiladu economi gryfach i'w galluogi i lwyddo mewn bywyd.

Mae adroddiad gwerthuso Twf Swyddi Cymru ar gael yma: http://gov.wales/statistics-and-research/evaluation-jobs-growth-wales/?lang=cy

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 23 Ebrill 2015

 

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

 

NDM5746

1. Elin Jones (Ceredigion)

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod cynllun blaenllaw Llywodraeth Cymru, sef Twf Swyddi Cymru, wedi'i gau yn sydyn ac yn galw am adfer rhaglen sy'n cyfateb iddo yn gyflym.

2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnwys pwynt 1 newydd ac ail rifo yn unol â hynny:

1. Yn cydnabod bod economi Deyrnas Unedig gref:

a) yn creu'r amodau ar gyfer twf o ran cyfleoedd swydd i'n pobl ifanc;

b) yn herio ysgolion, sefydliadau addysg bellach ac uwch, llywodraethau a chyflogwyr i nodi a diwallu sgiliau sydd eu hangen yn y farchnad gyflogaeth sy'n tyfu; ac

c) yn caniatáu i entrepreneuriaid ifanc fanteisio ar gyfleoedd sy'n deillio o dwf economaidd.

 

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 24 Ebrill 2015

 

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5747

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail rifo yn unol â hynny:

Yn croesawu'r cyhoeddiad yng Nghyllideb Llywodraeth y DU 2015 i ymestyn y cyfnod y gall ffermwyr hunangyflogedig nodi eu helw fel cyfartaledd o bum mlynedd i ddwy flynedd at ddibenion treth incwm, gan helpu dros 3,000 o ffermwyr unigol yng Nghymru i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail rifo yn unol â hynny:

Yn croesawu'r ffaith bod cyllid ar gyfer Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru wedi cael ei adfer ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r CFfI i sicrhau ateb cynaliadwy hir dymor.

3. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail rifo yn unol â hynny:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i helpu ardaloedd gwledig i ffynnu drwy hyrwyddo ffermio cyfran a chynllunio olyniaeth.

4. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu pwynt 3 a rhoi'r canlynol yn ei le:

Yn cydnabod yr angen i ddatblygu dull penodol i Gymru o ymdrin ag asedau cymunedol, sy'n adlewyrchu anghenion Cymru ac sy'n seiliedig ar ymgynghori eang yng Nghymru.

5. Elin Jones (Ceredigion)

Ym mhwynt 3, dileu 'sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Lleoliaeth 2011 ar waith yn llawn yng Nghymru' a rhoi 'ar waith' yn ei le.