30/04/2014 - Cynigion a Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 30 Ebrill 2014

Cynigion a gyflwynwyd ar 17 Ebrill 2014

Dadl Fer

NDM5488 Christine Chapman (Cwm Cynon): 200,000 o blant tawel?

Ystyried anghenion plant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu.

Cynigion a gyflwynwyd ar 23 Ebrill 2014

NDM5493 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi argymhellion adroddiad diweddar y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar rôl Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau yn yr UE.

2. Yn nodi ymhellach bod Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yn cael eu dyfarnu i ranbarthau â chynnyrch mewnwladol crynswth o lai na 75% o gyfartaledd yr Undeb Ewropeaidd ac yn gresynu bod Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn gymwys am drydedd rownd o gyllid.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cynlluniau a gyllidir gan yr UE yn cael eu diweddaru yn fwy cynhwysfawr ac yn fwy rheolaidd drwy WEFO.

4. Yn gresynu at fethiant dramatig prosiectau proffil uchel gan gynnwys Genesis 2 Cymru.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cyllid ar gyfer y cyfnod 2014-2020 yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol i sicrhau nad yw Cymru yn gymwys am bedwaredd rownd.

Mae adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar rôl Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau yn yr UE ar gael yn:

http://www.cynulliadcymru.org/cy/bus-home/bus-business-fourth-assembly-laid-docs/cr-ld9674-e.pdf

NDM5494 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r effaith economaidd a chymdeithasol gadarnhaol y mae'r dafarn yn ei chael ar gymunedau lleol.

2. Yn nodi ymhellach y gwaith nodedig sy'n cael ei wneud gan gynlluniau fel Pub is the Hub, ledled Cymru a Lloegr, o ran sicrhau y gall tafarnau ganolbwyntio mwy ar y gymuned.

3. Yn cydnabod bod yr astudiaethau achos gan grwpiau ymgyrchu, fel Pub is the Hub a'r Campaign for Real Ale, yn astudiaethau pwysig i ddysgu ohonynt.

4. Yn gresynu bod ystadegau diweddar y Campaign for Real Ale yn awgrymu bod tair tafarn yr wythnos yn cau yng Nghymru.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n fwy effeithiol gyda’r diwydiant tafarnau yng Nghymru i sicrhau llwyddiant parhaus tafarnau Cymru.

NDM5495 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod y gyfradd ddiweithdra ymhlith ieuenctid yn 21.3% - y lefel uchaf o blith pedair gwlad y DU;

2. Yn gresynu bod diweithdra hirdymor ymhlith pobl ifanc wedi cynyddu bedair gwaith ers ffurfio'r Llywodraeth Cymru bresennol;

3. Yn cydnabod gwerth pobl ifanc i economi Cymru; a

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau ar unwaith i wella rhagolygon economaidd pobl ifanc.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 24 Ebrill 2014

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5493

1. Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi pe byddai’r DU yn rhoi’r gorau i fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, mai dyna fyddai diwedd rôl Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau yn yr UE ac y byddai'n niweidiol i'r economi.

2. Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithio ar lefel Ewropeaidd i gryfhau rôl Pwyllgor y Rhanbarthau; a

b) ceisio cael llais cryfach i Gymru yn y Sefydliadau Ewropeaidd

NDM5494

1. Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu cronfa mentrau cymunedol er mwyn i gymunedau allu prynu tafarnau sydd mewn perygl o gau.

2. Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar y posibilrwydd o gefnogi tafarnau cymunedol drwy ddefnyddio pwerau rhyddhad ardrethi busnes.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 25 Ebrill 2014

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5493

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod pa mor bwysig ydyw bod y DU yn parhau i fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd i wneud Cymru yn lle mwy llewyrchus, cynaliadwy a diogel.

NDM5494

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid y system gynllunio fel na ellir dymchwel yr un tafarn neu newid ei ddefnydd heb gael caniatâd cynllunio.

2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu dosbarth defnydd ar wahân ar gyfer tafarnau cymunedol.

NDM5495

1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu pwynt 3 a’i roi yn ôl i mewn fel pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny.

2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ym mhwynt 4, dileu ‘gymryd camau ar unwaith’ a rhoi yn ei le ‘weithio ar y cyd gyda Llywodraeth y DU’.

3. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ym mhwynt 3, ar ôl 'Cymru’ rhoi ‘ac yn gresynu mai dim ond 60% o raddedigion gradd gyntaf cyflogedig, llawn amser o Sefydliadau Addysg Uwch Cymru a arhosodd yng Nghymru i weithio chwe mis ar ôl graddio.'

4. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gasglu gwell data er mwyn cyfrannu at bolisïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i allu cydweddu cyfleoedd hyfforddi a graddedigion yng Nghymru yn well.