Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 31 Ionawr 2012
Cynigion a Gyflwynwyd ar 10 Tachwedd 2011
NDM4854 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried, yn ychwanegol at y darpariaethau y cyfeiriwyd atynt yn NDM4680, y darpariaethau pellach hynny a ddygwyd gerbron yn y Bil Diogelu Rhyddidau sy’n ymwneud â rhyddid gwybodaeth a diogelu data, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Tachwedd 2011 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.(iii)
I weld copi o’r Bil Diogelu Rhyddidau ewch i:
http://services.parliament.uk/bills/2010-11/protectionoffreedoms/documents.html
Cynigion a Gyflwynwyd ar 24 Ionawr 2012
NDM4901 Carl Sargeant (Alyn a Glannau)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cytuno bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Gorchymyn y Swyddfa Gwell Rheoleiddio Leol (Diddymu a Throsglwyddo Swyddogaethau etc) 2012 yn unol â’r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2012.
Gosodwyd yr Esboniadol Memorandwm a memorandwm cydsyniad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2012.
NDM4902 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol sydd wedi’i flaenoriaethu. Yn y cynllun hwn ad-drefnwyd y gwaith o gyflawni’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol a gyhoeddwyd yn 2010, er mwyn canolbwyntio ar wneud i’r system drafnidiaeth weithio’n well i helpu i fynd i’r afael â thlodi, gwella lles a hybu twf economaidd.
Mae’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol wedi’i Flaenoriaethu a’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol ar gael drwy ddilyn y ddolen hon:
http://cymru.gov.uk/topics/transport/publications/ntp/?lang=cy
NDM4903 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu Adroddiad y Grwp Gorchwyl a Gorffen Micro-Fusnes ac ymrwymiad y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth i lunio cynllun ar gyfer gweithredu polisi a strategaeth Micro-Fusnes.
Mae Adroddiad y Grwp Gorchwyl a Gorffen Micro-Fusnes ar gael ar y ddolen hon:
http://wales.gov.uk/topics/businessandeconomy/publications/120118microbusinessrpt/?skip=1&lang=cy
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 26 Ionawr 2012
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4902
1. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad oes gan y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol weledigaeth glir ar gyfer cysylltu Cymru nac i leihau’r broblem gynyddol gyda thagfeydd ar goridor yr M4.
2. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adnewyddu ei Chynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol, gan gydgysylltu â Llywodraeth y DU, er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cyllid sydd ar gael drwy’r rhwydwaith Trafnidiaeth Traws-Ewropeaidd.
3. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu bod y cysylltiadau strategol rhwng y gogledd a’r de, a gynlluniwyd gan Lywodraeth Cymru’n Un, yn cael eu cadw yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol ar ei newydd wedd.
4. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi effaith y toriadau difrifol yng ngwariant cyfalaf Cymru ar brosiectau trafnidiaeth a’r angen i Lywodraeth Cymru nodi ffynonellau ychwanegol o gyfalaf at y diben hwn.
5. Peter Black (Gorllewin De Cymru):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gwrthwynebu’r bwriad yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol i ‘gynyddu capasiti’r gwasanaeth awyr oddi mewn i Gymru’ ar ôl 2015 ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth hedfan ehangach ar gyfer Cymru.
6. Peter Black (Gorllewin De Cymru):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod cyfraniad gwerthfawr darparwyr gwasanaeth trafnidiaeth gymunedol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu’r trefniadau cyllido ar ôl mis Mawrth 2012 fel mater o frys.
NDM4903
1. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod yr adroddiad “Prynu’n Ddoethach ar Adegau Mwy Anodd” yn cynnwys amcangyfrif Llywodraeth Cymru ei fod yn costio £20m i fusnesau gwblhau’r cam cyn-gymhwyso er mwyn cyflwyno cais ar gyfer contractau caffael cyhoeddus, ac mae hynny’n atal micro-fusnesau rhag cystadlu.
Gellir gweld Prynu’n Ddoethach ar Adegau Mwy Anodd (Saesneg yn unig) drwy fynd i:
http://wales.gov.uk/docs/det/policy/110302agenda5en.pdf
2. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi argymhelliad yr adroddiad y dylai Llywodraeth Cymru greu un brand cyfarwydd i gael mynediad at gymorth i fusnesau.
3. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Rhoi pwynt 1 newydd ar ddechrau’r cynnig:
Yn nodi bod 331,400 o bobl yn gweithio i 193,010 micro-fusnes yng Nghymru ac yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â chynnwys cymorth ychwanegol ar gyfer microfusnesau yn ei chyllideb.
4. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd y cynnig:
‘sy’n cynnwys mesurau i leihau baich ardrethi busnes’.
5. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu argymhelliad yr adroddiad i leihau’r baich rheoleiddio ar ficrofusnesau ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cyflwyno polisi ‘un i mewn ac un allan’ ar gyfer rheoliadau sy’n effeithio ar ficrofusnesau; a
b) cyflwyno cymal machlud ar gyfer yr holl reoliadau newydd sy’n effeithio ar ficrofusnesau er mwyn asesu eu heffeithiolrwydd.
6. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei Strategaeth Microfusnes yn cynnwys darpariaeth i fynd i’r afael â mannau gwan ar gyfer derbyn band eang fel blaenoriaeth er mwyn sicrhau bod gan bob microfusnes fynediad dibynadwy i’r rhyngrwyd.