Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 31 Ionawr 2017
Cynigion a Gyflwynwyd ar 24 Ioanwr 2017
NDM6217 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y cynnydd sydd wedi'i wneud mewn partneriaeth â chyrff cyhoeddus eraill a'r trydydd sector i hybu mwy o gydraddoldeb yng Nghymru, fel y dangosir yn yr Adroddiad Blynyddol am Gydraddoldeb 2015-2016 ac Adroddiad Interim Gweinidogion Cymru am Gydraddoldeb 2016, a
2. Yn ailddatgan ymrwymiad y Cynulliad i wneud Cymru'n wlad decach a mwy cyfartal.
Adroddiad Blynyddol amr Gydraddoldeb 2015-2016 ac Adroddiad Interim Gweinidogion Cymru am Gydraddoldeb 2016
NDM6218 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Rhagfyr 2016.
NDM6219 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 6) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Rhagfyr 2016.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 25 Ionawr 2017
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:
NDM6217
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Cod Ymarfer Rhan 2, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol weithio mewn partneriaeth â phobl i gydgynhyrchu atebion i fodloni eu canlyniadau llesiant personol. Cod Ymarfer Rhan 2, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol weithio mewn partneriaeth â phobl i gydgynhyrchu atebion i fodloni eu canlyniadau llesiant personol.
'Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Cod Ymarfer Rhan 2'
2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cynlluniau gweithredu effeithiol ar waith yn ymwneud â'r cynnydd o ran cydraddoldeb yng Nghymru, gydag amcanion a chanlyniadau mesuradwy wedi'u creu ar gyfer pob adroddiad yn y dyfodol.