DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 06/02/2008
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2008- 0013 - 2008: Menywod a’r Bleidlais
Codwyd gan:
Joyce Watson
Tanysgrifwyr:
Mark Isherwood 07/02/2008
Irene James 08/02/2008
Christine Chapman 08/02/2008
Sandy Mewies 08/02/2008
Jenny Randerson 08/02/2008
Val Lloyd 11/02/2008
Huw Lewis 11/02/2008
Lynne Neagle 11/02/2008
Mark Isherwood 12/02/2008
Mike German 13/02/2008
Bethan Jenkins 18/02/2008
Rosemary Butler 18/02/2008
Leanne Wood 19/02/2008
Mick Bates 07/04/2008
Gareth Jones 15/05/2008
2008: Menywod a’r Bleidlais
Yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gefnogi lansio '2008: Menywod a’r Bleidlais’.
Ar 6ed Chwefror, bydd hi’n 90 mlynedd ers i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl roi’r hawl i fenywod bleidleisio a chael eu hethol i’r Senedd. Yn nes ymlaen eleni, bydd hi hefyd yn 80 mlynedd ers i fenywod gael yr un hawliau pleidleisio â dynion.
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn cydnabod bod menywod yn dal wedi’u tangynrychioli’n wleidyddol ac yn ymroddedig i sicrhau y bydd cynnydd go iawn wedi’i wneud erbyn 2018 sef Canmlwyddiant ers i fenywod ennill y bleidlais.