OPIN-2008- 0014 - Pawb ymlaen ar Reilffordd Glyn Ebwy!

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 06/02/2008

R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant

OPIN-2008- 0014 - Pawb ymlaen ar Reilffordd Glyn Ebwy!

Codwyd gan:

Irene James

Tanysgrifwyr:

Val Lloyd 08/02/2008

Kirsty Williams 08/02/2008

Joyce Watson 08/02/2008

Sandy Mewies 08/02/2008

Huw Lewis 11/02/2008

Lynne Neagle 11/02/2008

Mike German 13/02/2008

Trish Law 14/02/2008

Christine Chapman 20/02/2008

Mick Bates 07/04/2008

Gareth Jones 15/05/2008

Pawb ymlaen ar Reilffordd Glyn Ebwy!

Mae’r Cynulliad hwn:

(i) Yn croesawu ailagor y cyswllt rheilffordd rhwng Glynebwy a Chaerdydd, gan ddarparu’r gwasanaeth cyntaf i deithwyr ers dros 40 o flynyddoedd.

(ii) Yn cydnabod effaith gadarnhaol y rheilffordd hon ar gynhwysiant cymdeithasol ac o ran esgor ar gyfleoedd cyflogaeth newydd ar gyfer pobl Glyn Ebwy.

(iii) Yn croesawu’r ffaith y bydd y rheilffordd newydd yn cynnig rhagor o ddewisiadau trafnidiaeth i bobl Glyn Ebwy a dewis arall addas yn hytrach na’r car.