OPIN-2008- 0056 - Cynllun i Gau Ffonau Talu BT

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 01/07/2008

R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant

OPIN-2008- 0056 - Cynllun i Gau Ffonau Talu BT

Codwyd gan:

Kirsty Williams

Tanysgrifwyr:

Trish Law 09/07/2008

Michael German 10/07/2008

Mick Bates 10/07/2008

Paul Davies 10/07/2008

Peter Black 10/07/2008

Mark Isherwood 11/07/2008

Val Lloyd 2008 11/07/2008

Joyce Watson 14/07/2008

Nerys Evans 16/07/2008

Mohammad Asghar 16/07/2008

Janet Ryder 16/07/2008

Helen Mary Jones 16/07/2008

Dai Lloyd 16/07/2008

Gareth Jones 16/07/2008

Chris Franks 16/07/2008

Bethan Jenkins 16/07/2008

Leanne Wood 16/07/2008

Alun Ffred Jones 16/07/2008

Cynllun i Gau Ffonau Talu BT

Mae’r Cynulliad hwn yn nodi:

- y gall rhai ardaloedd gwledig fod heb signalau ffonau symudol neu gall y signalau fod yn ysbeidiol ac y gall batris ffonau symudol golli eu gwefr, ac felly bod swyddogaeth o hyd i flychau ffôn, yn enwedig mewn sefyllfaoedd argyfwng.

- mewn ardaloedd gwledig a threfol bod llawer o alwadau i ChildLine a llinellau cymorth trais yn y cartref yn cael eu gwneud o ffonau talu.

- bod gan BT ddyletswydd i ddarparu gwasanaeth ffôn talu cyhoeddus cyffredin.

Felly er budd diogelwch y cyhoedd mae’r Cynulliad hwn yn galw ar British Telecom i ailfeddwl am ei gynlluniau presennol i gael gwared â ffonau talu ledled Cymru.