DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 16/07/2008
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2008- 0060 - Haint Streptococol grŵp B
Codwyd gan:
Janet Ryder
Tanysgrifwyr:
Bethan Jenkins 17/07/2008
Gareth Jones 17/07/2008
Dai Lloyd 17/07/2008
Leanne Wood 17/07/2008
Helen Mary Jones 17/07/2008
Chris Franks 17/07/2008
Nerys Evans 17/07/2008
Mohammad Asghar 17/07/2008
Haint Streptococol grŵp B
Mae'r Cynulliad hwn yn cydnabod mai Haint Streptococol Grŵp B yw achos mwyaf cyffredin y DU o haint sy'n bwgwth bywyd mewn babanod newydd-anedig; amcangyfrifir ei bod yn achosi gwenwyniad gwaed, llid yr ysgyfaint a llid yr ymennydd mewn 700 o fabanod bob blwyddyn. Mae'n galw ar y Llywodraeth i gyflwyno profion dibynadwy i wneud diagnosis o Haint Streptococol Grŵp B, fel sydd ar gael mewn gwledydd eraill yn Ewrop, UDA ac Awstralasia, i fenywod beichiog yng Nghymru, er mwyn adnabod mwy o fenywod beichiog y mae eu babanod ar risg uwch o Haint Streptococol Grŵp B ac er mwyn atal rhagor o'r heintiau difrodus hyn.