OPIN-2008- 0063 - Olynydd Cyfrif Cerdyn Swyddfa'r Post (CCSP2)

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 22/09/2008

R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant

OPIN-2008- 0063 - Olynydd Cyfrif Cerdyn Swyddfa’r Post (CCSP2)

Codwyd Gan:

Michael German

Tanysgrifwyr:

Trish Law 24/09/2008

Mick Bates 20/10/2008

Janet Ryder 13/11/2008

Chris Franks 13/11/2008

Mohammad Asghar 13/11/2008

Helen Matry Jones 13/11/2008

Bethan Jenkins 13/11/2008

Dr Dai Lloyd 13/11/2008

Nerys Evans 13/11/2008

Gareth Jones 13/11/2008

Rhodri Glyn Thomas 13/11/2008

Olynydd Cyfrif Cerdyn Swyddfa’r Post (CCSP2)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

- yn cefnogi cwsmeriaid cyfredol a chwsmeriaid y dyfodol a fydd yn defnyddio’r Cerdyn Cyfrif Swyddfa'r Post newydd (CCSP2) i barhau i gael gafael ar fudd-daliadau a phensiynau, gan ddefnyddio rhwydwaith Swyddfa’r Post.

- yn cefnogi canfyddiadau’r Sefydliad Economeg Newydd fod CCSP yn helpu i fynd i'r afael ag allgáu ariannol, y dylid gwella’r defnydd y gellir ei wneud o’r CCSP a'i wneud yn debyg i gyfrif cyfredol ac y bydd y rhwydwaith Swyddfeydd Post yng Nghymru, heb fusnes CCSP2, yn cael ei ddinistrio.

Gwelliannau

A01    16 Hydref 2008    Codwyd Gan Leanne Wood

Tanysgrifwyr:

Olynydd i Gyfrif Cerdyn Swyddfa’r Post

Mae’r Cynulliad yn cydnabod cyfraniad pwysig Swyddfeydd Post ledled Cymru at gynnal cymunedau lleol. Mae’n galw ar Lywodraeth y DU i ailasesu’r meini prawf ar gyfer comisiynu gwasanaeth Cyfrif Cerdyn Swyddfa’r Post gan ystyried cyfraniad cymdeithasol yn hytrach na dim ond ystyriaethau masnachol.

Mae’n credu y dylai’r cyfrifoldeb am Gyfrif Cerdyn Swyddfa’r Post aros gyda Post Office Limited wedi 2010. Os nad yw Llywodraeth y DU yn barod i dderbyn hyn, dylai’r Cynulliad a’r cynghorau lleol yng Nghymru geisio sicrhau bod gwasanaeth tebyg ar gael i bobl yng Nghymru gan osod seiliau ar gyfer ‘Banc y Bobl’ a fyddai’n seiliedig ar wasanaethu’r cyhoedd yn hytrach na hapfuddsoddi.