DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 14/11/08
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2008- 0091 - Swyddogaeth y Pwyllgor Materion Cymreig o ran craffu ar Orchmynion cymhwysedd deddfwriaethol
Codwyd gan:
Mike German
Tanysgrifwyr:
Eleanor Burnham 17/11/2008
Jenny Randerson 17/11/2008
Peter Black 18/11/2008
Mick Bates 18/11/2008
Kirsty Williams 20/11/2008
Swyddogaeth y Pwyllgor Materion Cymreig o ran craffu ar Orchmynion cymhwysedd deddfwriaethol
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi mai swyddogaeth y Pwyllgor Materion Cymreig o ran craffu ar Orchmynion cymhwysedd deddfwriaethol yw sicrhau nad yw’r pwerau a geisir:
yn mynd yn groes i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 nac unrhyw un o gyfreithiau eraill y DU neu Ewrop
yn mynd y tu hwnt i ffiniau Cymru
yn bygwth gwneuthuriad cyfansoddiadol y DU nac awdurdodaeth gyfreithiol Cymru a Lloegr.
Yn credu y dylai’r Pwyllgor ond ystyried amcanion polisi fel ffordd o sefydlu’r uchod.
Yn gresynu bod argymhellion y Pwyllgor ar y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ynghylch Tai Fforddiadwy wedi cael eu gwneud ar sail amcanion polisi.