OPIN-2008-0091 - Swyddogaeth y Pwyllgor Materion Cymreig o ran craffu ar Orchmynion cymhwysedd deddfwriaethol

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 14/11/08

R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant

OPIN-2008- 0091 - Swyddogaeth y Pwyllgor Materion Cymreig o ran craffu ar Orchmynion cymhwysedd deddfwriaethol

Codwyd gan:

Mike German

Tanysgrifwyr:

Eleanor Burnham 17/11/2008

Jenny Randerson 17/11/2008

Peter Black 18/11/2008

Mick Bates 18/11/2008

Kirsty Williams 20/11/2008

Swyddogaeth y Pwyllgor Materion Cymreig o ran craffu ar Orchmynion cymhwysedd deddfwriaethol

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi mai swyddogaeth y Pwyllgor Materion Cymreig o ran craffu ar Orchmynion cymhwysedd deddfwriaethol yw sicrhau nad yw’r pwerau a geisir:

  • yn mynd yn groes i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 nac unrhyw un o gyfreithiau eraill y DU neu Ewrop

  • yn mynd y tu hwnt i ffiniau Cymru

  • yn bygwth gwneuthuriad cyfansoddiadol y DU nac awdurdodaeth gyfreithiol Cymru a Lloegr.

Yn credu y dylai’r Pwyllgor ond ystyried amcanion polisi fel ffordd o sefydlu’r uchod.

Yn gresynu bod argymhellion y Pwyllgor ar y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ynghylch Tai Fforddiadwy wedi cael eu gwneud ar sail amcanion polisi.