OPIN-2009-0037 - Gwobrau 2009 Philip Lawrence

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 25/03/2009

R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant

OPIN-2009- 0037 - Gwobrau 2009 Philip Lawrence

Codwyd gan:

Nerys Evans

Tanysgrifwyr:

Darren Millar 06/04/2009

Gareth Jones 06/04/2009

Bethan Jenkins 06/04/2009

Dai Lloyd 06/04/2009

Rhodri Glyn Thomas 06/04/2009

Helen Mary Jones 06/04/2009

Mohammad Asghar 06/04/2009

Janet Ryder 06/04/2009

Chris Franks 06/04/2009

Gwobrau 2009 Philip Lawrence

Mae’r Cynulliad hwn yn credu bod pobl ifanc ledled Cymru’n cyfrannu’n gadarnhaol at eu cymunedau, at yr economi ac at gymdeithas yn gyffredinol.

Mae’r Cynulliad hwn yn pryderu y caiff pobl ifanc eu darlunio mewn ffordd negyddol yn rhy aml yn ein gwasg a’n cyfryngau, sy’n gallu cael effaith negyddol ar hunan-barch cymdeithasol a’r canfyddiadau o bobl ifanc.

Mae’r Cynulliad hwn yn nodi gwaith ardderchog Gwobrau Philip Lawrence, sy’n hyrwyddo cyfraniad a phortread cadarnhaol pobl ifanc, ac sy’n annog ysgolion a phrosiectau ieuenctid i hyrwyddo’r Gwobrau fel ffordd o ddathlu gwir ddelwedd pobl ifanc yng Nghymru.