DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 26/03/2009
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2009- 0039 - Coffáu’r rheini o Gymru a aeth i ymladd yn erbyn y ffasgwyr yn Rhyfel Cartref Sbaen
Codwyd gan:
Leanne Wood
Tanysgrifwyr:
Nerys Evans 02/04/2009
Gareth Jones 06/04/2009
Bethan Jenkins 06/04/2009
Dai Lloyd 06/04/2009
Rhodri Glyn Thomas 06/04/2009
Helen Mary Jones 06/04/2009
Mohammad Asghar 06/04/2009
Janet Ryder 06/04/2009
Chris Franks 06/04/2009
Val Lloyd 27/04/2009
Coffáu’r rheini o Gymru a aeth i ymladd yn erbyn y ffasgwyr yn Rhyfel Cartref Sbaen
Mae’r Cynulliad hwn:
Yn nodi ar 1af Ebrill y bydd 70 o flynyddoedd wedi mynd heibio ers diwedd Rhyfel Cartref Sbaen, ac yn cydnabod aberth y gwirfoddolwyr Cymreig a aeth i frwydro yn erbyn ffasgiaeth;
Yn ailddatgan ei wrthwynebiad i ffasgiaeth;
Yn dymuno coffáu pobl o Gymru a wirfoddolodd i frwydro yn erbyn ffasgiaeth yn Sbaen;
yn cefnogi gosod cofeb barhaol yn y Senedd.
Gwelliannau
A01 31 Mawrth 2009 Codwyd Gan Lorraine Barrett
Tanysgrifwyr:
Joyce Watson 01/04/2009
Irene James 01/04/2009
Rosemary Butler 01/04/2009
Janice Gregor 01/04/2009
Michael German 01/04/2009
Huw Lewis 01/04/2009
Lynne Neagle 01/04/2009
Darren Millar 06/04/2009
Coffáu’r rheini o Gymru a aeth i ymladd yn erbyn y ffasgwyr yn Rhyfel Cartref Sbaen
Mae’r Cynulliad hwn:
Yn nodi ar 1 Ebrill y bydd 70 o flynyddoedd wedi mynd heibio ers diwedd Rhyfel Cartref Sbaen;
Yn rhoi teyrnged, yn coffáu ac yn cydnabod aberth y gwirfoddolwyr Cymreig a aeth i frwydro yn erbyn ffasgaeth yn Sbaen;
Yn ailddatgan ei wrthwynebiad i ffasgaeth.