DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 20/09/2010
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2010-0047 - Cefnogaeth i’r Mwyngloddwyr yn Chile a’u Teuluoedd
Codwyd gan:
Jeff Cuthbert
Tanysgrifwyr:
Mohammad Asghar 20/09/2010
David Melding 20/09/2010
Trish Law 21/09/2010
Gwenda Thomas 22/09/2010
Christine Chapman 22/09/2010
Jenny Randerson 22/09/2010
Val Lloyd 22/09/2010
Irene James 22/09/2010
Mark Isherwood 23/09/2010
Lorraine Barrett 23/09/2010
Angela Burns 23/09/2010
Bethan Jenkins 28/09/2010
Alun Davies 28/09/2010
Joyce Watson 28/09/2010
Gareth Jones 22/10/2010
Cefnogaeth i’r mwyngloddwyr yn Chile a’u teuluoedd
Mae’r Cynulliad hwn;
Yn sefyll yn gadarn gyda’r 33 mwyngloddiwr o Chile, sydd wedi’u dal ym mwynglawdd copr San Jose, a’u teuluoedd. Yr ydym yn cydnabod y sefyllfa drallodus a chaled y byddant yn ei hwynebu am gyfnod hir o amser. Byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod pobl Cymru’n cael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr ymdrechion i’w hachub a’r holl ddatblygiadau cysylltiedig.
Yn annog Llywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth y DU i ddarparu unrhyw gymorth angenrheidiol i'r awdurdodau yn Chile, boed hynny’n gyngor neu’n gymorth technegol, wrth iddynt weithio i ryddhau’r mwyngloddwyr.