OPIN-2010-0047 - Cefnogaeth i’r Mwyngloddwyr yn Chile a’u Teuluoedd

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 20/09/2010

R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant

OPIN-2010-0047 - Cefnogaeth i’r Mwyngloddwyr yn Chile a’u Teuluoedd

Codwyd gan:

Jeff Cuthbert

Tanysgrifwyr:

Mohammad Asghar 20/09/2010

David Melding 20/09/2010

Trish Law 21/09/2010

Gwenda Thomas 22/09/2010

Christine Chapman 22/09/2010

Jenny Randerson 22/09/2010

Val Lloyd 22/09/2010

Irene James 22/09/2010

Mark Isherwood 23/09/2010

Lorraine Barrett 23/09/2010

Angela Burns 23/09/2010

Bethan Jenkins 28/09/2010

Alun Davies 28/09/2010

Joyce Watson 28/09/2010

Gareth Jones 22/10/2010

Cefnogaeth i’r mwyngloddwyr yn Chile a’u teuluoedd

Mae’r Cynulliad hwn;

Yn sefyll yn gadarn gyda’r 33 mwyngloddiwr o Chile, sydd wedi’u dal ym mwynglawdd copr San Jose, a’u teuluoedd.  Yr ydym yn cydnabod y sefyllfa drallodus a chaled y byddant yn ei hwynebu am gyfnod hir o amser.  Byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod pobl Cymru’n cael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr ymdrechion i’w hachub a’r holl ddatblygiadau cysylltiedig.

Yn annog Llywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth y DU i ddarparu unrhyw gymorth angenrheidiol i'r awdurdodau yn Chile, boed hynny’n gyngor neu’n gymorth technegol, wrth iddynt weithio i ryddhau’r mwyngloddwyr.