DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 06/10/2010
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2010-0053 - Yn llongyfarch Celtic Manor, Casnewydd ar gynnal Cwpan Ryder
Codwyd gan:
William Graham
Tanysgrifwyr:
Mohammad Asghar 07/10/2010
Angela Burns 07/10/2010
Nick Bourne 07/10/2010
Rosemary Butler 07/10/2010
Darren Millar 08/10/2010
David Melding 13/10/2010
Yn llongyfarch Celtic Manor, Casnewydd ar gynnal Cwpan Ryder
Mae'r Cynulliad hwn yn llongyfarch Celtic Manor yng Nghasnewydd ar gynnal y 38ain Cwpan Ryder yn llwyddiannus. Drwy oresgyn sialensiau'r tywydd, roedd cyfraniadau trefnwyr y twrnamaint, staff y cwrs, y gwirfoddolwyr, y cefnogwyr a'r chwaraewyr wedi arwain at Gwpan Ryder rhagorol a gafodd ei wylio ar y teledu gan dros biliwn o bobl.
Mae'r Cynulliad hwn yn benderfynol ei fod am adeiladu ar y llwyfan sydd wedi cael ei greu drwy gynnal y twrnamaint, gan roi hwb i broffil dinas Casnewydd a Chymru a'i hyrwyddo fel cyrchfan ar gyfer twristiaeth a buddsoddiad.