DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 07/07/2011
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2011-0016 - Cefnogaeth y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Palesteina
Codwyd gan:
Rhodri Glyn Thomas
Bethan Jenkins
Tanysgrifwyr:
Antoinette Sandbach 13/07/2011
Lindsay Whittle 14/07/2011
Elin Jones 14/07/2011
Jocelyn Davies 14/07/2011
Simon Thomas 14/07/2011
Leanne Wood 15/07/2011
Kirsty Williams 15/07/2011
Llyr Huws Gruffydd 19/09/2011
Alun Ffred Jones 19/09/2011
Dafydd Elis Thomas 19/09/2011
Elin Jones 19/09/2011
Lindsay Whittle 21/09/2011
Cefnogaeth y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Palesteina
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cefnogi pryderon y gymuned Balesteinaidd sy’n byw yng Nghymru;
Yn nodi y caiff dadl ei chynnal yn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl Palesteina; ac
Yn galw ar bob aelod-wladwriaeth o’r Cenhedloedd Unedig i barchu ac amddiffyn hawliau pobl Palesteina yn ystod y ddadl hon.