DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 20/10/2011
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2011-0036 - Nyrsys Arbenigol Epilepsi
Codwyd gan:
Mark Isherwood
Tanysgrifwyr:
Paul Davies 03/11/2011
Kirsty Williams 03/11/2011
Mohammad Asghar 03/11/2011
Eluned Parrott 03/11/2011
Peter Black 03/11/2011
William Powell 03/11/2011
Aled Roberts 03/11/2011
Andrew RT Davies 03/11/2011
Jocelyn Davies 04/11/2011
Simon Thomas 04/11/2011
Russell George 08/11/2011
Antoinette Sandbach 08/11/2011
Byron Davies 09/11/2011
Lindsay Whittle 16/11/2011
David Melding 21/11/2011
Nyrsys Arbenigol Epilepsi
Gan gydnabod gwerth nyrsys arbenigol epilepsi, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu adroddiad Epilepsy Action Best Care: the value of epilepsy specialist nurses;
Yn gwerthfawrogi sefyllfa ganolog nyrsys epilepsi o ran darparu gofal cost effeithiol o ansawdd uchel i gleifion sydd ag epilepsi a’u teuluoedd;
Yn gwerthfawrogi swyddogaeth arbenigol y nyrs epilepsi fel rhan o dîm amlddisgyblaethol sy’n darparu cefnogaeth i unigolion sydd ag epilepsi;
Yn ymrwymo i ddiogelu swyddi nyrsys epilepsi rhag cael eu dileu neu secondiad i ddyletswyddau generig;
Yn annog Llywodraeth Cymru i gefnogi ymgyrch Epilepsy Action Cymru i sicrhau bod y Gyfarwyddeb Datblygu Gwasanaeth ar gyfer Epilepsi yn cael ei gweithredu’n llawn.