DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 29/02/2012
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2012-0072 - Gwneud Dydd Gwyl Dewi yn Wyliau Cyhoeddus
Codwyd gan:
Bethan Jenkins
Tanysgrifwyr:
Lindsay Whittle 11/06/2012
Gwneud Dydd Gwyl Dewi yn Wyliau Cyhoeddus
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi bod Diwrnod San Andreas a Diwrnod San Padrig wedi’u sefydlu yn wyliau cyhoeddus gan y gyfraith yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon fel ei gilydd;
Yn credu bod Dydd Gwyl Dewi yn bwysig iawn i Gymru’n hanesyddol ac yn ddiwylliannol;
Yn nodi bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi pleidleisio’n unfrydol o blaid gwneud Dydd Gwyl Dewi yn wyliau cyhoeddus yn 2000;
Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU yn galw am wyliau cyhoeddus ychwanegol i Gymru ar 1 Mawrth.