DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 26/04/2012
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2012-0086 -Prosiect Eiriolaeth, Addysg a Hawliau Merched Caerdydd a'r Fro
Codwyd gan:
Julie Morgan
Tanysgrifwyr:
Paul Davies 30/04/2012
David Rees 01/05/2012
Christine Chapman 01/05/2012
Mick Antoniw 01/05/2012
Simon Thomas 01/05/2012
Vaughan Gething 01/05/2012
Mark Drakeford 02/05/2012
Aled Roberts 02/05/2012
Mike Hedges 02/05/2012
Lindsay Whittle 02/05/2012
Joyce Watson 21/06/2012
Prosiect Eiriolaeth, Addysg a Hawliau Merched Caerdydd a'r Fro
Mae’r Cynulliad hwn:
Yn cydnabod â phryder y bydd 1 ym mhob 4 merch yn profi cam-drin domestig yn ystod ei hoes;
Yn cydnabod y goblygiadau pellgyrhaeddol y mae anghydraddoldeb rhywiol yn ei gael ar fywyd llawer o ferched a menywod yng Nghymru; ac
Yn croesawu atebion a arweinir gan y gymuned, fel Prosiect Eiriolaeth, Addysg a Hawliau Merched Caerdydd a'r Fro, sy’n mynd i’r afael â cham-drin domestig ac anghydraddoldeb rhywiol gan ddefnyddio gwirfoddolwyr fel hyrwyddwyr hawliau merched yn eu cymunedau eu hunain.