DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 10/07/2012
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2012-0108 - Darganfod gronyn Higgs boson
Codwyd gan:
Simon Thomas
Tanysgrifwyr:
David Rees 11/07/2012
Christine Chapman 13/07/2012
Joyce Watson 08/10/2012
Darganfod gronyn Higgs boson
Mae’r Cynulliad hwn:
Yn nodi’r newyddion cyffrous o CERN am ddarganfod gronyn sy’n cyd-fynd â theori Higgs boson;
Yn llongyfarch y tîm, ac yn enwedig y gwyddonydd Dr Lyn Evans, a aned yn Aberdâr, a oedd yn arwain y datblygiad tan 2010; ac
Yn credu bod gwaith y Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr yn dangos gwerth cydweithredu gwyddonol heddychlon rhyngwladol a buddsoddi mewn pynciau STEM mewn ysgolion a phrifysgolion.