DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 13/02/2013
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2013-0155 Cefnogaeth i Ladd-dai Bach Cymru
Codwyd gan:
Russell George
Tanysgrifwyr:
Mohammad Asghar 14/02/2013
Andrew RT Davies 14/02/2013
Antoinette Sandbach 14/02/2013
Mark Isherwood 14/02/2013
Suzy Davies 15/02/2013
Janet Finch-Saunders 15/02/2013
Angela Burns 19/02/2013
Jenny Rathbone 19/02/2013
Nick Ramsay 20/02/2013
Darren Millar 20/02/2013
William Graham 20/02/2013
Byron Davies 20/02/2013
David Melding 20/02/2013
Joyce Watson 11/03/2013
Cefnogaeth i Ladd-dai Bach Cymru
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol:
Yn cydnabod y pryder cyffredinol a’r dirywiad mewn hyder ymysg y cyhoedd yng nghyswllt prosesu a labelu cig yng ngoleuni’r sgandal cig ceffyl Ewropeaidd presennol;
Yn nodi bod y rhan fwyaf o ladd-dai yng Nghymru yn rhwydwaith o fusnesau bach, lleol;
Yn credu bod gan y lladd-dai bach hynny ran hollbwysig i’w chwarae fel patrymau enghreifftiol o safonau lles anifeiliaid, labelu bwyd a’r gallu i olrhain bwyd;
Yn ddiolchgar i ladd-dai bach Cymru am gynnal safonau cynhyrchu rhagorol ac am gynnal hyder defnyddwyr yng nghig oen, cig eidion a phorc Cymru.