DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG
A GYFLWYNWYD AR 19/11/15
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
OPIN-2013-0367 Cydnabod hunaniaethau rhywedd nad ydynt yn ddeuaidd ar basbortau
Cyflwynwyd gan:
Peter Black
Tanysgrifwyr:
Eluned Parrott (23/11/15)
Sandy Mewies (24/11/15)
Joyce Watson (24/11/15)
Mike Hedges (24/11/15)
William Powell (27/11/15)
Cydnabod hunaniaethau rhywedd nad ydynt yn ddeuaidd ar basbortau
Mae'r Cynulliad hwn:
Yn credu bod cyfeiriadau amhriodol at y rhywiau mewn adrannau ar wybodaeth hunaniaeth bersonol yn bychanu ac yn dibrisio pobl;
Yn nodi bod pob pasbort a gyhoeddir gan Swyddfa Basbort EM yn rhyw benodol ar hyn o bryd;
Yn nodi bod dinasyddion o Awstralia, Seland Newydd, India, Nepal a Phacistan yn gallu cael pasport X nad yw'n rhyw benodol;
Yn credu bod angen darpariaeth debyg yn y DU lle mae'r polisi gwahaniaethol cyfredol yn gwadu hunaniaeth dilys i bobl nad ydynt yn uniaethu ag un rhyw penodol, pobl sy'n uniaethu â dau ryw a phobl sy'n rhyweddhylifol; ac
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Llywodraeth y DU a Swyddfa Basbort EM i sicrhau bod pasbortau X nad ydynt yn rhyw benodol ar gael yn y DU.