OPIN-2014-0320 Llydaw

Cyhoeddwyd 26/11/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/12/2014

DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD AR 26/11/14

R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant

OPIN-2014-0320 Llydaw

Cyflwynwyd gan:

Rhun ap Iorwerth

Tanysgrifwyr:

Bethan Jenkins 27/11/2014
Simon Thomas 27/11/2014
Lindsay Whittle 27/11/2014
Llyr Gruffydd 01/12/2014
Aled Roberts 02/12/2014

Llydaw

Mae'r Cynulliad hwn:

yn nodi yr berthynas agos rhwng Cymru a Llydaw;

yn nodi yr map tiriogaethol newydd y pleidleiswyd arno yn Senedd Ffrainc sy'n ad-drefnu 22 rhanbarth bresennol Ffrainc i greu 13 o uwch-ranbarthau ac o dan y cynigion hyn fod adran Llydewig hanesyddol Loire Atlantique yn cael ei chynnwys yn uwch-ranbarth newydd Pays-de-la-Loire;

yn nodi ymhellach bod pôl yng Ngorffennaf 2014 wedi canfod bod 70% o drigolion Loire Atlantique a 75% o drigolion Llydaw yn cefnogi ailuno;

yn galw ar Lywodraeth Ffrainc i barchu dymuniadau pobl Llydaw a hanes, iaith a diwylliant unigryw Llydaw ac i adfer ei ffiniau hanesyddol.