OPIN-2016-0009 Pythefnos Cwmnïau Cydweithredol

Cyhoeddwyd 17/06/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

​DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG

A GYFLWYNWYD AR 17/06/16

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant

OPIN-2016-0009 Pythefnos Cwmnïau Cydweithredol 
 

Cyflwynwyd gan:
Jeremy Miles R

Tanysgrifwyr:
Lynne Neagle 17/06/16
Mike Hedges 17/6/16
Lee Waters 20/06/16
Vikki Howells 20/06/16
Ann Jones 20/06/16
Mick Antoniw 21/06/16
Huw Irranca-Davies 13/07/16
 
OPIN-2016-0009 Pythefnos Cwmnïau Cydweithredol 

Mae'r Cynulliad hwn:

Yn nodi y cynhelir Pythefnos Cwmnïau Cydweithredol rhwng 18 Mehefin a 2 Gorffennaf ac yn croesawu'r adroddiad diweddar ar economi gydweithredol y DU 2016, sy'n datgan bod nifer aelodau cwmnïau cydweithredol yn y DU wedi codi dros 2 filiwn ers 2012 i 17.5 miliwn.  Bellach, mae cwmnïau cydweithredol yn cyfrannu £34 biliwn i economi'r DU. Yng Nghymru, mae cwmnïau cydweithredol yn sicrhau cyflogaeth i filoedd o bobl, gyda throsiant o bron i £1 biliwn.

Yn annog Llywodraeth Cymru i barhau i gydnabod cyfraniad cwmnïau cydweithredol i Gymru gryfach, decach, a blaenoriaethu gweithredu argymhellion y Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol.