OPIN-2016-0022 Mis Ymwybyddiaeth o Ganser y Pancreas

Cyhoeddwyd 04/11/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG

A GYFLWYNWYD AR 3/11/16

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant

OPIN-2016-0022 Mis Ymwybyddiaeth o Ganser y Pancreas

 
Cyflwynwyd gan:

Lynne Neagle

Tanysgrifwyr:

Mohammad Asghar 9/11/16
David Rees 9/11/16
Gareth Bennett 9/11/16
Angela Burns 9/11/16
Paul Davies 9/11/16
Jayne Bryant 9/11/16
Dai Lloyd 9/11/16
Darren Millar 9/11/16
Vikki Howells 9/11/16
Mark Isherwood 10/11/16
Rhun ap Iorwerth 10/11/16
Nick Ramsay 14/11/16
Llyr Gruffydd 14/11/16
Nathan Gill 14/11/16

 
Mis Ymwybyddiaeth o Ganser y Pancreas

Mae'r Cynulliad:

Yn croesawu'r ffaith bod mis Tachwedd yn dynodi Mis Ymwybyddiaeth o Ganser y Pancreas;

Yn llongyfarch pob elusen a'u cefnogwyr ar eu gwaith ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth o'r clefyd, sydd â'r gyfradd goroesi waethaf ymysg y 21 math mwyaf cyffredin o ganser yng Nghymru;

O'r farn bod yr arolwg barn diweddar a gomisiynwyd gan Pancreatic Cancer UK yn destun pryder. Dangosodd na allai 74 y cant o boblogaeth y DU enwi unrhyw symptom a ddaw yn sgil y clefyd, gan bwysleisio mor bwysig yw codi ymwybyddiaeth ynghylch y mater;

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag elusennau, darparwyr gwasanaethau a gweithwyr iechyd proffesiynol i wella ymwybyddiaeth, prosesau ymchwilio, diagnosis, triniaeth a chanlyniadau ar draws y wlad.