DATGANIAD BARN YSGRIFENEDIG
A GYFLWYNWYD AR 6/12/16
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2016-0026 - Cefnogaeth i Addysg Gerdd
Cyflwynwyd gan:
Rhianon Passmore
Tanysgrifwyr:
Dawn Bowden
Hefin David
Lynne Neagle
Mohammad Asghar
Mike Hedges
Vikki Howells
Hannah Blythyn
Jayne Bryant
Dai Lloyd
Eluned Morgan
Joyce Watson
David Rees
Neil McEvoy
Jenny Rathbone
Cefnogaeth i Addysg Gerdd
Mae'r Cynulliad hwn:
Yn croesawu buddsoddiad Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru o £20 miliwn ar gyfer y cynllun Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau.
Yn nodi modiwlau Dysgu a Phrofiadau Creadigol o fewn cwricwlwm addysg Donaldson ar gyfer Cymru, y rhwydweithiau creadigol rhanbarthol a llwybrau Ysgolion Creadigol Arweiniol.
Yn gofyn i Lywodraeth Cymru weithredu cynllun addysg gerdd cyfannol sy'n darparu cynnig o fynediad hyfforddiant a cherddorfaol cyson.
Yn rhagweld canlyniad cadarnhaol a chynaliadwy ar gyfer gwasanaethau cefnogaeth i gerdd ac ensemble celf ieuenctid ledled Cymru.
Yn gofyn i Lywodraeth Cymru barhau i ddatblygu a chryfhau cydraddoldeb o ran mynediad i'r celfyddydau ar bob lefel.