OPIN-2017-0046 - Tim Iechyd Meddwl Cymunedol Hafod, Sir Ddinbych

Cyhoeddwyd 12/07/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

DATGANIAD BARN YSGRIFENEDIG

A GYFLWYNWYD AR 12/07/17

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant

 

OPIN-2017-0046  Tim Iechyd Meddwl Cymunedol Hafod, Sir Ddinbych

 
Cyflwynwyd gan:

Llyr Gruffydd
 
Tanysgrifwyr:
Darren Millar 17/07/17
Rhun ap Iorwerth 17/07/17
Janet Finch-Saunders 17/07/17
 
Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Hafod, Sir Ddinbych

Mae'r Cynulliad hwn:

1. Yn nodi:

a) bod tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Hafod yn wasanaeth ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chyngor Dinbych;

b) ei fod yn gofalu am, yn cynnal ac yn trin dros 550 o bobl yng ngogledd sir Ddinbych bob blwyddyn sy'n byw gydag afiechyd meddwl;

2. Yn llongyfarch y tîm am fod y cyntaf yng Nghymru i gael ei achredu gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion.

3. Yn nodi bod yr achrediad yn gydnabyddiaeth o waith rhagorol ar draws 31 maes yn dilyn archwiliad gan weithiwr prosiect o Goleg Brenhinol y Seiciatryddion ac adborth gan gleientiaid, gofalwyr, ac arbenigwyr iechyd.