01/03/2011 - Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dydd Mawrth 8 Mawrth 2011 a dydd Mercher 9 Mawrth 2011

Dydd Mawrth 15 Mawrth 2011 a dydd Mercher 16 Mawrth 2011

Dydd Mawrth 22 Mawrth 2011 a dydd Mercher 23 Mawrth 2011

………………………………………….

Dydd Mawrth 8 Mawrth 2011

Busnes y Llywodraeth:

  • Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru (45 munud)

  • Datganiad Busnes a Chwestiynau (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Trallwysiadau Gwaed Halogedig (30 munud)

  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Blant: Ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru (30 munud)

  • Cynnig i gymeradwyo’r Waste (England and Wales) Regulations 2011 (15 munud)

  • Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011 (15 munud)

  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â’r Mesur Seneddol ynghylch Diwygio Cyrff Cyhoeddus (15 munud)

  • Dadl ar adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (ESTYN) ar gyfer 2009-10 (60 munud)

  • Dadl ar y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol (60 munud)

Dydd Mercher 9 Mawrth 2011

Busnes y Llywodraeth:

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig (30 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (30 munud)

Busnes heblaw busnes y Llywodraeth:

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar yr 'Ymchwiliad Dilynol i Rianta yng Nghymru a rhoi’r Cynllun Gweithredu Rhianta ar waith' (30 munud)

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar yr 'Ymchwiliad Dilynol i Dlodi Plant yng Nghymru: Ai Addysg yw’r Ateb?' (30 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

  • Cyfnod Pleidleisio

  • Dadl fer (30 munud)

Dydd Mawrth 15 Mawrth 2011

Busnes y Llywodraeth:

  • Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru (45 munud)

  • Datganiad Busnes a Chwestiynau (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog dros Dreftadaeth: Strategaeth Llyfrgell Newydd (30 munud)

  • Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Deddf Plant 1989 (Bwrsari Addysg Uwch) (Cymru) 2011 (15 munud)

  • Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Apelio ynghylch Gwybodaeth am Reoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (Cymru) 2011(15 munud)

Cynnig i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda’i gilydd o dan Reol Sefydlog 7.20 ond gyda phleidlais ar wahân (15 munud)

  • Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cynlluniau wedi eu cymeradwyo)(Cymru) 2011

  • Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Symiau) (Cymru) 2011

  • Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 23.57 ar y Mesur arfaethedig Llywodraeth Leol (Cymru) (60 munud)

Yn unol  â Rheol Sefydlog 23.49, caiff gwelliannau eu cwblhau yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Mesur arfaethedig.

Ar ddiwedd Cyfnod 3, caiff y Gweinidog gynnig fod y Mesur arfaethedig yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 23.58. Os caiff y cynnig ei gytuno:

  • Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 23.58 i gymeradwyo Mesur arfaethedig Llywodraeth Leol (Cymru) (5 munud)

  • Dadl ar Strategaeth yr Iaith Gymraeg (60 munud)  

  • Dadl ar Ddarparu Gwasanaethau Demensia (60 munud)

Dydd Mercher 16 Mawrth 2011

Busnes y Llywodraeth:

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros y Gyllideb (30 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth (30 munud)

Busnes y Cynulliad:

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)

  • Cynnig i ail-wneud y Rheolau Sefydlog (15 munud)

Busnes heblaw busnes y Llywodraeth:

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cynaliadwyedd ar Bolisïau Cynllunio yng Nghymru  (60 munud)

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu ar yr Agenda Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

  • Cyfnod Pleidleisio

  • Dadl fer (30 munud)

Dydd Mawrth 22 Mawrth 2011

Busnes y Llywodraeth:

  • Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru (45 munud)

  • Datganiad Busnes a Chwestiynau (30 munud)

Cynnig i drafod y tair eitem ganlynol gyda’i gilydd o dan Reol Sefydlog 7.20 ond gyda phleidlais ar wahân (15 munud)

  • Cynnig i gymeradwyo’r Marine Licencing (Notice Appeals) (Wales) Regulations 2011

  • Cynnig i gymeradwyo’r Marine Licencing (Civil Sanctions) (Wales) Order 2011

  • Cynnig i gymeradwyo’r Marine Licencing (Appeals Against Licencing Decisions) (Wales) Regulations 2011

  • Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 23.57 ar y Mesur arfaethedig Llywodraeth Leol (Cymru) (60 munud)

Yn unol  â Rheol Sefydlog 23.49, caiff gwelliannau eu cwblhau yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Mesur arfaethedig.

Ar ddiwedd Cyfnod 3, caiff y Gweinidog gynnig fod y Mesur arfaethedig yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 23.58. Os caiff y cynnig ei gytuno:

  • Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 23.58 i gymeradwyo Mesur arfaethedig Llywodraeth Leol (Cymru) (5 munud)

  • Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 23.57 ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) (60 munud)

Yn unol â Rheol Sefydlog 23.49, caiff gwelliannau eu cwblhau yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Mesur arfaethedig.

Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff y Gweinidog gynnig fod y Mesur arfaethedig yn cael ei basio yn unol  â Rheol Sefydlog 23.58. Os caiff y cynnig ei gytuno:

  • Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 23.58 i gymeradwyo’r Mesur Arfaethedig ynghylch Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) (5 munud)

  • Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 23.57 ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Tai (Cymru) (60 munud)

Yn unol  â Rheol Sefydlog  23.49, caiff gwelliannau eu cwblhau yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Mesur arfaethedig.

Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff y Gweinidog gynnig fod y Mesur arfaethedig yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 23.58.  Os caiff y cynnig ei gytuno:

  • Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 23.58 i gymeradwyo’r Mesur Arfaethedig ynghylch Tai (Cymru) (5 munud)

Dydd Mercher 23 Mawrth 2011

Busnes y Llywodraeth:

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (30 munud)

  • Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (30 munud)

Busnes heblaw busnes y Llywodraeth:

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cynaliadwyedd ar 'Dargedau Bioamrywiaeth' (60 munud)

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu ar 'Hyfforddiant a Sgiliau Dwyieithog yn y gweithle a rhyngwyneb busnes â’r cyhoedd’ (60 munud)

  • Dadl ar ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol i Ddrafftio Mesurau Llywodraeth Cymru: Gwersi o’r tair blynedd gyntaf (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

  • Cyfnod Pleidleisio

  • Dadl fer (30 munud)