03/03/2009 - Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dydd Mawrth 10 Mawrth a dydd Mercher 11 Mawrth 2009

Dydd Mawrth 17 Mawrth a dydd Mercher 18 Mawrth 2009

Dydd Mawrth 24 Mawrth a dydd Mercher 25 Mawrth 2009

Dydd Mawrth 10 Mawrth 2009

Busnes y Llywodraeth:

  • Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru (45 munud)

  • Datganiad Busnes a Chwestiynau (30 munud)

  • Dadl ar Ddigartrefedd (60 munud)

  • Dadl ar Raglen Cymru dros Affrica (60 munud)

Dydd Mercher 11 Mawrth 2009

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (30 munud)

  • Cwestiynau i Ddirprwy Brif Weinidog Cymru a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (30 munud)

Busnes heblaw busnes y Llywodraeth:

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar gynnydd y Byrddau Iechyd Lleol

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)

  • Cyfnod pleidleisio

  • Dadl fer (30 munud)

.............................................................

Dydd Mawrth 17 Mawrth 2009

Busnes y Llywodraeth:

  • Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru (45 munud)

  • Datganiad Busnes a Chwestiynau (30 munud)

  • Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Dŵr Daear (Cymru a Lloegr) 2009 (15 munud)

  • Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Galluedd Meddyliol (Amddifadu o Ryddid: Asesiadau, Awdurdodiadau Safonol ac Anghydfodau ynghylch Preswyliaeth) (Cymru) 2009 (15 munud)

  • Dadl Cyfnod 3 (Rheol Sefydlog Rhif 23.57) ar y Mesur arfaethedig, y Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru). Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff y Gweinidog gynnig fod y Mesur arfaethedig yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 23.58: Cynnig Cyfnod 4 (Rheol Sefydlog 23.58) i gymeradwyo'r Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) (135 munud)

Dydd Mercher 18 Mawrth 2009

Busnes y Llywodraeth:

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus (30 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (30 munud)  

Busnes heblaw busnes y Llywodraeth:

  • Dadl ar gynnig Jenny Randerson ar gyfer LCO - Cynlluniau Teithio Datblygiadau Mawr (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

  • Cyfnod pleidleisio

  • Dadl fer (30 munud)

Dydd Mawrth 24 Mawrth 2009

Busnes y Llywodraeth:

  • Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru (45 munud)

  • Datganiad Busnes a Chwestiynau (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol: Cynllun Cydraddoldeb Sengl (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: Ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i Adroddiad Blynyddol y Comisiynydd Plant (30 munud)

  • Cynnig i gymeradwyo cyllideb atodol (15 munud)

  • Dadl ar fynediad dinasyddion (bydd y ddadl yn trafod mynediad at wasanaethau sy’n canolbwyntio ar y dinesydd a sut y darperir hwy gyda ffocws ar sut y cyflawnwyd hyn drwy fod yn arloesol, cyd-greu gyda dinasyddion a gweithredu egwyddorion sy’n canolbwyntio ar y dinesydd mewn perthynas â datblygu sefydliadol) (60 munud)

Dydd Mercher 25 Mawrth 2009

Busnes y Llywodraeth:

  • Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (30 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig (30 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol (30 munud)

Busnes heblaw busnes y Llywodraeth:

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu ar roi’r cytundeb llwyth gwaith athrawon ar waith (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)

  • Cyfnod pleidleisio

  • Dadl fer (30 munud)