Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 10 Tachwedd 2020
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Ymdrin â chymwysterau yn 2021 (45 munud)
- Rheoliadau'r Cynllun Seibiant Dyledion (Moratoriwm Lle i Anadlu a Moratoriwm Argyfwng Iechyd Meddwl) (Cymru a Lloegr) 2020 (15 munud)
- Dadl: Cyfnod 3 y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) (300 munud)
Dydd Mercher 11 Tachwedd 2020
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru (45 munud)
- Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) (45 munud)
- Datganiad gan y Prif Weinidog: Rhoi'r Strategaeth Ryngwladol ar Waith (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021-22 (30 munud)
- Dadl ar Ddeiseb P-05-1060 Caniatewch i archfarchnadoedd werthu eitemau "nad ydynt yn hanfodol" yn ystod y cyfyngiadau symud (30 munud)
- Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar Effaith yr achosion o COVID-19 ar y diwydiannau creadigol (30 munud)
- Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Caffael cyhoeddus yn yr economi sylfaenol (30 munud)
- Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Dadl Fer – Caroline Jones (Gorllewin De Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 17 Tachwedd 2020
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) - Bydd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ateb cwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 munud)
- Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Y Cynllun Adfer Economaidd (45 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Model Buddsoddi Cydfuddiannol (45 munud)
- Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Nodi Wythnos Rhyng-ffydd (45 munud)
- Gorchymyn Cynrychiolaeth y Bobl (Eithrio Treuliau Etholiad) (Cymru) (Diwygio) 2020 (15 munud)
- Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) (15 munud)
- Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2020-21 (30 munud)
- Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol, Rheoliadau Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd (Addasiadau Canlyniadol) (Ymadael â'r UE) 2020 (15 munud)
- Dadl: Ail Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru (30 munud)
- Dadl: Adroddiad y Grŵp Cynllunio Etholiadau (45 munud)
- Dadl: Cyfnod 4 y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) (15 munud)
Dydd Mercher 18 Tachwedd 2020
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig (45 munud
- Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
- Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar Effaith COVID-19 ar dreftadaeth, amgueddfeydd ac archifau (30 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
- Dadl Fer – Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd) (30 munud)
Dydd Mawrth 24 Tachwedd 2020
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
- Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd - yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol" (30 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 munud)
- Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Diwygio'r drefn ar gyfer Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat (45 munud)
- Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Diweddariad ar Dasglu'r Cymoedd (45 munud)
- Rheoliadau Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2020 (15 munud)
- Rheoliadau Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 1) 2020 (15 munud)
- Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig (45 munud)
Dydd Mercher 25 Tachwedd 2020
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd (45 munud)
- Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau i Gomiswn y Senedd (30 munud)
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
- Dadl y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Dadl Fer – David Rees (Aberafan) (30 munud)