Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dydd Mawrth 11 Mehefin a dydd Mercher 12 Mehefin 2013
Dydd Mawrth 18 Mehefin a dydd Mercher 19 Mehefin 2013
Dydd Mawrth 25 Mehefin a dydd Mercher 26 Mehefin 2013
***********************************************************************
Dydd Mawrth 11 Mehefin 2013
Busnes y Llywodraeth
Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Datganiad Polisi ar Addysg Uwch (45 munud)
Rheoliadau Prentisiaethau (Amodau Cwblhau Cymreig Amgen) 2013 (15 munud)
Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu’r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd) 2013 (15 munud)
Dadl: Y frech goch a phwysigrwydd rhaglenni brechu (60 munud)
Busnes y Cynulliad
Dadl Fer - Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru) Gwybod am y Gwenyn: Rôl gwyddoniaeth o ran gwarchod iechyd gwenyn fel peillwyr (30 munud) – gohiriwyd o 8 Mai 2013
Dydd Mercher 12 Mehefin 2013
Busnes y Llywodraeth
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd (45 munud)
Cwestiynau i’r Gweinidog Tai ac Adfywio (45 munud)
Busnes y Cynulliad
Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
Dadl Fer – Leanne Wood (Canol De Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 18 Mehefin 2013
Busnes y Llywodraeth
Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Strategaeth Pysgodfeydd Cymru (30 munud)
Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Adolygu Strwythurau Addysg (30 munud)
Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Adolygiad Annibynnol ar y Cyllid sydd ar gael i Fusnesau Bach a Chanolig yng Nghymru: Adroddiad Cyntaf (30 munud)
Dadl Cyfnod 3 ar Fil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) o dan Reol Sefydlog 26.44 (90 munud)
“Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.
Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47. Os derbynnir y cynnig:
Cynnig Cyfnod 4 i gymeradwyo Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) o dan Reol Sefydlog 26.47.”
Dydd Mercher 19 Mehefin 2013
Busnes y Llywodraeth
Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)
Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)
Busnes y Cynulliad
Dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod ynghylch Meysydd Carafanau Gwyliau (Cymru) (Darren Millar) (60 munud)
Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
Dadl Fer - Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 25 Mehefin 2013
Busnes y Llywodraeth
Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: Anghenion Dysgu Ychwanegol (30 munud)
Dadl: Y Papur Gwyn ar Dai – Y Diweddaraf ar ei Weithredu (60 munud)
Dadl: Gofal Sylfaenol a Chyfraith Gofal Gwrthgyfartal (60 munud)
Dydd Mercher 26 Mehefin 2013
Busnes y Llywodraeth
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid (45 munud)
Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth (45 munud)
Busnes y Cynulliad
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
Dadl ar Adroddiad 03-13 y Pwyllgor Safonau i’r Cynulliad ar Lobïo a Grwpiau Trawsbleidiol (60 munud)
Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
Dadl Fer - Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) (30 munud)